
Teitl: Independent Member of the Standards Committee
Roedd David yn
Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol
yng Nghyngor Sir Ddinbych tan iddo ymddeol ac roedd hefyd yn Swyddog
Arweiniol â chyfrifoldeb dros ymgysylltu â’r 37 Cyngor Tref a Chymuned, y Trydydd Sector a’r Gymuned Lluoedd
Arfog. Roedd ei rôl hefyd
yn cynnwys datblygu nifer o strategaethau corfforaethol yn cynnwys Polisi Cydraddoldeb y Cyngor, y Cynllun
Iaith Gymraeg, Cyfamod y Lluoedd
Arfog a Siartr y Cyngor â’r Cynghorau Tref a Chymuned.
Mae David yn siarad
Cymraeg ac yn Ynad Llywyddol, mae’n gwerthuso cyd-Ynadon ac yn eistedd ar Banel Ymgynghori’r Arglwydd Ganghellor ar benodiad Ynadon
yng Nghymru.
Yn ogystal â bod yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Amgueddfa
Dinbych mae hefyd yn Llywodraethwr
yn Ysgol Tremeirchion ac yn Geidwad rhan-amser
ym Mhentref Peryglon, sef canolfan addysgol
elusennol yn Sir y Fflint.
Mae David yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint ac Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’n byw yn Nhremeirchion, Sir Ddinbych, ac yn chwaraewr badminton go lew, ond hynod frwdfrydig. Mae’n mwynhau crwydro Eryri ac mae wedi cwblhau nifer o lwybrau cerdded gan gynnwys Llwybr Arfordirol Môn.