
Rwyf yn frodor o Fôn ac wedi byw a gweithio
yng ngogledd Cymru ar hyd fy oes, fwy neu lai.
Rwyf newydd ymddeol ac roeddwn yn arfer
gweithio fel Uwch Reolwr Polisi yn Adran Economaidd Llywodraeth Cymru. Cyn
ymuno â Llywodraeth Cymru, roeddwn yn gweithio i Lywodraeth y DU.
Rwyf yn Aelod Siartredig o’r Sefydliad
Siartredig Personél a Datblygu.
Y tu allan i’r gwaith, rwyf wedi gweithio
mewn rolau gwirfoddol ers nifer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd rwyf yn aelod o Llais,
sef sefydliad annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gynrychioli barn
pobl sy’n derbyn gofal iechyd a chymdeithasol. Mae Llais wedi disodli’r Cyngor
Iechyd Cymuned y bûm yn aelod ohono am 11 mlynedd. Rwyf hefyd wedi bod yn
ffodus o gael treulio cyfnod fel Cyfarwyddwr a Chadeirydd Menter Môn ac
Agoriad, sydd wedi’u lleoli ym Mangor.
Yn 2025 des yn aelod o Grŵp Adfywio
Llangefni.
Mae gen i ferch a thri o wyrion, sydd hefyd
yn byw ar Ynys Môn.
Mae fy niddordebau’n cynnwys rygbi, gwella fy ngwybodaeth am hanes lleol a theithio.
E-bost: BraceGriffiths@ynysmon.llyw.cymru