
Teitl: Co-opted Independent Member
Mae Trefor yn
Gymrawd o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig, gyda bron i 40 mlynedd o brofiad
fel Gwas Sifil yn gwasanaethu Llywodraeth EM, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth
yr Alban. Mae wedi gweithio mewn rolau uwch arweinyddiaeth, datblygu polisi,
cyflwyno gweithredol a rheoli rhaglenni. Roedd hyn yn cynnwys gwaith blaenllaw
i ddatganoli a sefydlu trefniadau newydd ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru a'r
Alban.
Mae’n gyfarwyddwr anweithredol ac ymddiriedolwr profiadol. Mae’n arbenigo mewn materion llywodraethu ac yn darparu cymorth a chyngor i sawl corff cyhoeddus a thrydydd sector yn y DU.
Mae Trefor yn mwynhau teithio, darllen, garddio a threulio amser gyda'i deulu.