
Mae Gill yn Gymrawd Sefydliad
Siartredig Personél a Datblygu a chanddi nifer o flynyddoedd o brofiad fel
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn y maes Tai Cymdeithasol. Gweithiodd yn y
gorffennol hefyd fel Cyfarwyddwr ei busnes ymgynghori AD a Datblygiad Sefydliadol
ei hun ac mewn rolau AD uwch yn y sector cyhoeddus a’r sector breifat gan
gynnwys ym meysydd Gwasanaethau Ariannol, y diwydiant Modurol,
Ynni/Cyfleustodau, Adwerthu ac Amddiffyn.
Mae Gill yn aelod o Bwyllgor Safonau
Cyngor Conwy, Cyngor Sir Fflint ac Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd
Cymru. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Panel Lleyg ar Baneli Rheoleiddio Gwaith
Cymdeithasol yn Lloegr Gofal Cymdeithasol Cymru, Aelod Lleyg ar y Pwyllgor
Ymchwiliol Rheoleiddio Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn Aelod Panel Annibynnol ar
Dribiwnlysoedd Apeliadau Heddlu a Gwrandawiadau Camymddygiad Heddlu yng
Ngogledd Cymru. Bu hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer dau sefydliad
elusennol lleol ac yn aelod o Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer
Athrawon.
Mae Gill yn byw yn Llandudno ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd ac o amgylch arfordir Gogledd Cymru.
E-bost: gillmurgatroyd@ynysmon.llyw.cymru