Cyflwyno adroddiad gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Mr Dyfed Edwards - Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mr Paul Andrew - Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gofal integredig (y Gorllewin) a Mr Tom Regan - Tîm Iechyd Meddwl i’r cyfarfod.
Rhoddodd Mr Paul Andrew a Mr Tom Regan gyflwyniad byr i’r Pwyllgor ar y bartneriaeth gadarn sy’n bodoli rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod. Nodwyd bod y naill sefydliad yn canolbwyntio ar wella iechyd, annibyniaeth a lles trigolion Ynys Môn.
Roedd Mr Jim Lee, Cadeirydd y Nifty60’s wedi gofyn i gael bod yn bresennol. Dywedodd bod y Nifty60’s wedi cael ei sefydlu yn 2019. Mae gan y Nifty60’s bron i 900 o aelodau cofrestredig erbyn hyn ac mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant ymwrthiant a gweithredol. Nod y Nifty60’s yw lleihau’r risg o lithro a baglu ymhlith pobl hŷn a lleihau’r pwysau ar feddygfeydd ac adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd. Rhoddodd flas o’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn y 13 lleoliad ledled yr Ynys. Cyfarfu cynrychiolwyr y Nifty60’s ag Ellen Williams, Rheolwr Clwstwr Ardal y Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i drafod Atal Gofal Sylfaenol a’r posibilrwydd o gwrdd â Hwb Clystyrau Meddygon Teulu Ynys Môn i roi cyflwyniad iddynt yn y gobaith o sicrhau cyllid i ariannu’r Nifty60’s. Ym mis Medi 2025 rhoddwyd dau gyflwyniad i’r Hwb Clystyrau Meddygon Teulu ym Menllech ac roedd yr adborth yn gadarnhaol ac o blaid darparu cyllid ar gyfer y Nifty60’s. Trafodwyd ffigwr cychwynnol o £400k ac yn dilyn cyfarfod pellach roedd y swm yma wedi gostwng i tua £200k. Byddai hyn wedi golygu newid cynllun y Nifty60’s drwy leihau nifer yr hyfforddwyr a pheidio â chael rheolwr. Yn dilyn cyfarfodydd pellach gyda’r bwrdd Iechyd nid oes arwydd bod modd dod o hyd i ddatrysiad i ariannu’r Nifty60’s. Yn ystod y cyfarfodydd hyn awgrymodd y Nifty60’s y gallai’r Bwrdd Iechyd sefydlu Cytundeb Lefel Gwasanaeth i drosglwyddo’r arian i’r Awdurdod Lleol, a bod y Nifty60’s wedyn yn ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Awdurdod Lleol a fyddai’n craffu ar y gwaith ac yn derbyn adroddiadau chwarterol i sicrhau tryloywder. Aeth ymlaen i ddweud bod tua 450 o athletwyr, ar gyfartaledd, yn mynychu’r dosbarthiadau bob wythnos mewn 13 lleoliad a’i bod hi’n bosib bod tua 1,000 o bobl hŷn yn hyfforddi ar Ynys Môn bob wythnos. Ar ôl yr addewid cychwynnol y byddai cyllid ar gael mae’r Nifty60’s bellach yn gorfod dweud wrth bobl ar y rhestr aros nad oes lle ar gael ar hyn o bryd oherwydd diffyg cyllid. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymweld â’r Nifty60’s ac mae o’r farn y dylai’r Bwrdd Iechyd ariannu’r Nifty60’s. Roedd o’r farn y dylid defnyddio Ynys Môn fel peilot ar gyfer gweddill Cymru. Aeth Mr Lee ymlaen i ddweud ei fod wedi rhoi cyflwyniad, ar gais Mr Robert Callow, Swyddog Ymgysylltu’r Bwrdd Iechyd, yn ystod Digwyddiad Datblygu Strategol yng Nghanolfan Fusnes Conwy ym mis Hydref 2025 ac Ebrill 2026. Hefyd, ar gais Jenna Gallagher, Arbenigwr Cefn CMATS, mae’r Nifty60’s wedi mynychu diwrnodau Cyfeirio Cymunedol BIPBC yng Nghanolfannau Hamdden ar hyd a lled Ynys Môn lle mae ffisiotherapyddion yn cyfeirio cleifion i’r Nifty60’s. Aeth Mr Lee ymlaen i ddweud bod Sarcopenia yn gyflwr lle mae pobl yn colli mas y cyhyrau ac mae Meddygon Teulu’n cyfeirio cleifion at y Nifty60’s i’w helpu i gynyddu mas y cyhyrau. Dywedodd bod yr ansicrwydd ynglŷn â’r cyllid gan y Bwrdd Iechyd yn rhwystredig i’r Nifty60’s a bod hyn yn amharu ar y rhaglen a’i allu i helpu pobl hŷn i wella eu hiechyd corfforol a chymdeithasu i wella eu hiechyd meddwl.
Rhoddwyd cyfle i Mr Lee holi cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd. Cododd y materion canlynol:-
• Gweithio mewn Partneriaeth a Chynaliadwyedd - yn sgil y pwysau ariannol sy’n wynebu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, pa gyfleoedd pellach sydd gan y Bwrdd Iechyd i ddatblygu cytundebau lefel gwasanaeth gydag awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i ddarparu cymorth ataliol a chymunedol? A fyddai’r Bwrdd Iechyd yn ystyried cynyddu’r buddsoddiad mewn rhaglenni cymunedol llwyddiannus sy’n helpu i atal salwch, lleihau’r galw ar wasanaethau statudol a chyfrannu at gynaliadwyedd tymor hwy ar draws y system gofal iechyd a chymdeithasol?
• Elw ar Fuddsoddiad - mae nifer o raglenni cymunedol a thrydydd sector wedi cael eu cynllunio i gadw pobl yn iach, annibynnol ac mewn cysylltiad, ac mae hynny’n lleihau’r galw ar Feddygon Teulu, ysbytai a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Yn sgil y dystiolaeth bod atal yn aml iawn yn fwy cost effeithiol nag ymyrraeth frys, pam nad ydi’r Bwrdd Iechyd yn fwy cyson wrth fuddsoddi mewn rhaglenni ataliol tymor hir drwy sefydlu cytundebau partneriaeth ffurfiol gydag awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol?
Dywedodd Mr Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod Mr Lee wedi mynychu Cynadleddau'r Bwrdd sy’n trafod pwysigrwydd gweithio gyda chynlluniau ataliol ac roedd yn cydnabod ei rwystredigaeth o ran yr ansicrwydd ynglŷn â chyllido’r cynllun Nifty60’s. Nododd y byddai’n trafod gyda Mr Paul Andrew (a oedd hefyd yn bresennol) fel bod ymateb yn cael ei anfon i’r Nifty60’s cyn gynted â phosib. Bydd copi o’r ohebiaeth at Mr Lee yn cael ei hanfon at y Cyngor hefyd. Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai modd rhoi rhyw syniad i’r Nifty60’s pryd y gallant ddisgwyl derbyn ymateb. Dywedodd Mr Edwards nad oedd yn gallu ymrwymo i unrhyw amserlen benodol ond dywedodd y byddai’n cysylltu â Mr Jim Lee unwaith y bydd ganddo unrhyw wybodaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Nifty60’s wedi derbyn cyllid drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy Medrwn Môn yn y gorffennol ac awgrymodd y dylid chwilio am ffynonellau cyllido tebyg.
Mewn ymateb i’r ail gwestiwn dywedodd Mr Edwards bod y Bwrdd Iechyd dan bwysau gan swyddfa Prif Weinidog Cymru i ariannu cynlluniau o’r fath, ond y byddai hynny’n golygu gwneud arbedion sylweddol mewn rhannau eraill o’r Bwrdd Iechyd. Nododd bod angen edrych yn wahanol ar anghenion Iechyd a Lles. Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r bwrdd Iechyd symud 0.5% o’r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Acíwt i’r Adain Gymunedol. Roedd y Bwrdd Iechyd eisoes wedi trafod hyn cyn derbyn cyfarwyddyd gan y Llywodraeth, ond tra bod pobl ar restrau aros maith am driniaeth mae’n benderfyniad anodd ond rhaid cefnogi pobl yn gynharach yn y system. Y fframwaith polisi fydd yn cael ei ddefnyddio yw’r dull Cymunedol o’r Cychwyn, i ddarparu gwasanaethau a phob math o ddarpariaeth i gefnogi pobl yn y gymuned. Aeth Mr Edwards ymlaen i ddweud bod y Nifty60’s yn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu a bod hynny’n helpu gydag unigrwydd.
Wrth ystyried y cyflwyniad, nododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
• Nodwyd bod 72 plentyn o Ynys Môn ar y rhestr aros am Wasanaethau Niwroamrywiol ac Awtistiaeth. Holwyd sut mae’r Bwrdd Iechyd yn bwriadu lleihau’r rhestr aros gan fod 3 blynedd yn annerbyniol a dylai plant gael eu gweld o fewn ychydig fisoedd. Dywedodd Mr Dyfed Edwards ei bod hi’n anodd recriwtio staff profiadol i ddelio gydag atgyfeiriadau. Dywedodd bod y Bwrdd yn ceisio sefydlu tîm a fydd yn weithredol ar hyd a lled y rhanbarth i ymateb i’r bylchau wrth recriwtio staff arbenigol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod gwaith rhanbarthol hefyd yn cael ei gyflawni gyda’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a bod y chwe awdurdod lleol yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i geisio dod o hyd i ddatrysiad fel y gellir cefnogi plant ag anghenion penodol. Amlygodd nad yw pob plentyn ar y rhestr aros angen cael ei gyfeirio at y Gwasanaeth Niwroamrywiol ac Awtistiaeth ond mae ysgolion yn cyfeirio plant yn syth i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gan nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o fynd i’r afael â’r problemau y mae’r plentyn yn ei wynebu. Nododd bod gwaith arloesol yn digwydd yn rhanbarthol i fynd i’r afael â’r rhestr aros.
• Cyfeiriwyd at y Gwasanaethau Dementia a holwyd p’un a oes digon o Nyrsys Seiciatrig Cymunedol (CPN) ar Ynys Môn i gefnogi cleifion a theuluoedd. Dywedodd Mr Tom Regan - Tîm Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod capasiti digonol ar Ynys Môn o’i gymharu â Gwynedd gan fod cyllid ychwanegol wedi cael ei ddarparu ar gyfer y Tîm Cymorth Dwys. Nododd ei bod hi wedi cymryd amser i integreiddio’r system o fewn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ar Ynys Môn er mwyn cynorthwyo cleifion.
• Nodwyd bod llywodraeth newydd yng Nghaerdydd a holwyd p’un a yw hynny’n rhoi hyder i’r Bwrdd Iechyd y bydd gwelliannau’n cael eu gweld. Holwyd beth y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud i gryfhau’r berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd ac awdurdodau lleol. Dywedodd Mr Edwards bod Llywodraeth Cymru wedi dweud mai Iechyd yw’r flaenoriaeth a’i bod yn dymuno gweld gwasanaethau’n gwella i gleifion. Nododd ei fod wedi pwysleisio yn ystod ei drafodaethau gyda Gweinidogion o Lywodraeth Cymru bod angen edrych ar Iechyd a Lles o bersbectif ehangach gyda sefydliadau partner ar draws y sbectrwm yn hytrach na chanolbwyntio ar ffigurau a data. Roedd o’r farn y dylid darparu cyllid ar y cyd yn hytrach na bod y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod Lleol yn darparu gwasanaethau ar wahân. Codwyd cwestiynau pellach ynglyn ag ariannu iechyd a gofal, a gofynnwyd a fyddai’r Cyngor yn cefnogi hynny. Dywedodd y Prif Weithredwr y dylai cyfrifoldebau statudol pob sefydliad gael eu hariannu’n llawn gan fod mwy a mwy o bwysau’n cael ei roi ar sefydliadau heb gyllid digonol. Roedd o’r farn bod cyfrifoldebau ac atebolrwydd yn gwanhau drwy ddarparu cyllid ar y cyd a dywedodd bod yr awdurdod yn gweithio ar draws y rhanbarth mewn sawl maes ar hyn o bryd.
• Holwyd ynglyn â’r modd y mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau a chyfathrebu â chleifion yn y Gymraeg os mai dyma yw ei hiaith ddewisol. Dywedodd Mr Edwards bod y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac uchelgais y Bwrdd yw hyrwyddo’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau i gleifion o ddydd i ddydd. Cyflwynir Adroddiad Blynyddol i gyfarfod y Bwrdd Iechyd sy’n amlygu faint o gleifion sy’n dymuno derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Nododd bod rhaid annog a chefnogi staff i siarad Cymraeg gyda chleifion a theuluoedd.
• Holwyd p’un a oes gan y Bwrdd Iechyd gynlluniau ar waith i fynd i’r afael â’r problemau parcio yn Ysbyty Gwynedd. Dywedodd Mr Paul Andrew bod y Cyfarwyddwr Cyfleusterau wedi creu strategaeth barcio ar gyfer holl ysbytai’r Bwrdd Iechyd. Nododd bod gwasanaeth bysiau ychwanegol bellach ar gael i Ysbyty Gwynedd yn dilyn cyhoeddi’r strategaeth ac mae staff yn cael eu hannog i rannu ceir. Awgrymwyd y dylai cleifion dderbyn cod QR gyda’u llythyr apwyntiad i’w galluogi i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr ysbyty. Dywedodd y Prif Weithredwr bod opsiynau parcio ar gael oddi ar y safle a bod rhaid ystyried y cyfleuster parcio a theithio yn y Gaerwen ac yn Llanfairpwll; rhaid newid meddylfryd pobl fel nad ydynt yn ddibynnol ar geir yn unig. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai Grŵp Partneriaeth Trafnidiaeth Cymru helpu’r Bwrdd Iechyd daclo’r problemau parcio. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Plant a Theuluoedd at gyfarfod rhwng y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth ac Aelodau Aethwy, Arweinydd y Cyngor a Swyddogion ynglyn â gwydnwch y pontydd a thrafnidiaeth gyhoeddus a’r effaith y gall hyn ei gael ar broblemau megis parcio yn Ysbyty Gwynedd. Nododd bod heriau yn Ysbyty Gwynedd gan fod rhai pobl yn parcio yno drwy’r dydd ac yn defnyddio’r maes parcio fel cyfleuster parcio a theithio. Gallai maes parcio aml-lawr fod yn un opsiwn ond byddai’r gost yn sylweddol a byddai’r gwaith adeiladu yn amharu ar y ddarpariaeth parcio tra byddai’r gwaith yn mynd rhagddo. Aeth ymlaen i ddweud na all byrddau iechyd yng Nghymru godi tâl am barcio fel sy’n digwydd yn Lloegr.
• Cyfeiriwyd at y ffaith bod sylw wedi cael ei roi yn y wasg i’r ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi colli traean o’i Dîm Arweinyddiaeth a bod 4 Uwch Reolwr wedi gadael tra bo Archwilio Cymru wedi adrodd y llynedd bod sefydlogrwydd o fewn y Bwrdd. Holwyd p’un a oes sefydlogrwydd o fewn y Bwrdd Iechyd gan fod cleifion yn adrodd nad ydynt wedi gweld unrhyw newid. Dywedodd Mr Dyfed Edwards bod Archwilio Cymru wedi adrodd bod sefydlogrwydd o fewn y Bwrdd Iechyd ac yn bennaf rhwng Aelodau’r Bwrdd ac Aelodau Annibynnol. Cytunodd bod bylchau sylweddol o fewn y Tîm Arweinyddiaeth ac mae problemau recriwtio sydd angen eu datrys gan fod cyflogau’n uwch yn Lloegr ac mae uwch aelodau staff yn dueddol o aros yng Nghymru am gyfnodau byr yn unig. Nododd bod rhaid creu Bwrdd Iechyd sy’n caniatáu i staff ddatblygu gyrfa a phenodi pobl leol sy’n fwy tebygol o aros gyda’r Bwrdd Iechyd am gyfnod hwy. Dywedodd yr Aelod Portffolio Plant a Theuluoedd bod Bwrdd Pobl a Diwylliant y Bwrdd Iechyd yn ystyried y problemau recriwtio a chynllunio olyniaeth.
• Holwyd p’un a yw’n anodd recriwtio Nyrsys Ardal. Dywedodd Mr Paul Andrew mai’r Pennaeth Nyrsio sy’n gyfrifol am y Nyrsys Ardal ac mae heriau sylweddol oherwydd salwch ac absenoldeb mamolaeth. Nododd bod hyfforddiant staff yn cael ei ddarparu i’r Tîm Nyrsys Ardal ar hyn o bryd ac mae Metron Datblygu Staff yn gweithio’n agos gyda’r tîm. Mae’r Dashfwrdd gweithle wedi cael ei wella i rannu gwybodaeth ac mae’r cydweithio gyda’r Tîm Gwydnwch Cymunedol i’w groesawu. Codwyd cwestiynau pellach ynglyn â’r pwysau ar wasanaethau staffio eraill pan fo’n rhaid i staff gamu i’r adwy i fynd i weld cleifion am nad oes Nyrsys Ardal ar gael. Dywedodd Mr Paul Andrew bod symud staff i rolau eraill yn heriol yn enwedig ar benwythnosau ond mae’n rhaid mynd i’r afael ag anghenion cleifion ac mae staff yn cael eu hanfon i gyflawni gwahanol rolau.
• Holwyd p’un a oedd treulio 24 awr yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi dod yn norm erbyn hyn gan fod adroddiadau di-ri o bobl yn gorfod eistedd mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am oriau neu aros y tu allan mewn ambiwlans. Dywedodd Mr Dyfed Edwards bod cleifion yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am gyfnod hwy o’i gymharu â 2/3 blynedd yn ôl. Dywedodd bod pobl yn defnyddio adrannau Damweiniau ac Achosion Brys pan ddylent fod wedi mynd i weld eu Meddyg Teulu. Dywedodd Mr Paul Andrew bod pobl dan yr argraff bod yr adran Damweiniau ac Achosion Brys yn wasanaeth meddygfa 24 awr ac mae’n rhaid newid y disgwyliad hwn fel nad yw’n dod yn norm. Dywedodd ei bod hi’n annerbyniol bod cleifion yn gorfod aros mewn Ambiwlansys y tu allan i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am oriau ac mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem drwy gyfathrebu â phobl a’u haddysgu bod cyfleusterau eraill ar gael i ddelio ag anhwylderau cyffredinol yn hytrach na’u bod yn mynd i’r adran Achosion Brys. Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ei bod yn dymuno gweld y Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau cymunedol ychwanegol sydd yn anodd gan fod gan y Bwrdd Iechyd ddiffyg o £43m.
• Nodwyd ei bod hi’n braf clywed bod amseroedd aros mewn ambiwlansys y tu allan i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gwella. Holwyd beth mae’r Bwrdd Iechyd wedi’i gyflawni i wella’r sefyllfa a sut mae’r amseroedd trosglwyddo yn Ysbyty Gwynedd yn cymharu â’r ddau ysbyty arall yng ngogledd Cymru a sut mae’r Bwrdd Iechyd yn cymharu ag ysbytai mewn rhannau eraill o Gymru. Dywedodd Mr Paul Andrew nad yw’r brig mewn cleifion wedi cynyddu yn unol â’r disgwyl a bod cyfarfodydd atebolrwydd yn cael eu cynnal gyda’r Tîm Gofal Brys sy’n gyfrifol am adrannau Damweiniau ac Achosion Brys er mwyn gwella’r system o fewn yr adrannau hyn. Nododd bod yr heriau yn gysylltiedig â throsglwyddo cleifion i wahanol ysbytai yn amrywio ar wahanol adegau a’i bod hi’n anodd cael cymhariaeth oherwydd lleoliad yr ysbytai. Aeth ymlaen i ddweud bod gan y Gwasanaethau Ambiwlans gyfnod trosglwyddo o 45 munud yn genedlaethol. Nodwyd bod yr ystadegau ar drosglwyddo cleifion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
• Gofynnwyd a oes tystiolaeth bod pobl o Loegr yn dod i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Ngogledd Cymru. Dywedodd Mr Dyfed Edwards y byddai’n edrych i weld a oes tystiolaeth bod pobl yn croesi’r ffin o Loegr i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Ngogledd Cymru. Nododd bod adrannau damweiniau ac Achosion Brys dros y ffin hefyd yn wynebu problemau a bod pobl yn gorfod aros oriau am driniaeth. Nodwyd bod pobl yn defnyddio adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwyned pan maent ar wyliau ac yna maent yn cael eu galw’n ôl i Ogledd Cymru am driniaeth bellach. Mynegwyd y dylai’r cleifion hyn gael eu trosglwyddo i’w hysbyty lleol am driniaeth bellach yn hytrach na bod pobl leol yn gorfod aros. Dywedodd Mr Andrew bod 12 claf o Loegr yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i’w trosglwyddo’n ôl i’w hysbytai lleol.
• Holwyd ynglyn â’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi a p’un ai y gellid defnyddi’r ysbyty i liniaru rhai o’r problemau yn adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd. Dywedodd Mr Paul Andrew bod y gwaith yn Ysbyty Penrhos Stanley wedi cael ei gwblhau erbyn hyn. Nododd bod Robot Fferylliaeth ar fin cael ei osod yn yr ysbyty er mwyn rhoi cyfle i gleifion gasglu presgripsiynau. Nododd bod gwaith arloesol yn cael ei wneud yn yr ysbyty ac mae staff o Brifysgol Bangor yn gweithio ar y safle’n rheolaidd. Roedd y Prif Weithredwr o’r farn bod angen rhyw fath o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwasanaethau sydd ar gael yn Ysbyty Penrhos Stanley er mwyn lliniaru’r pwysau ar adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd.
• Gofynnwyd am ddiweddariad ar y Ganolfan Feddygol Arfaethedig yng Nghaergybi. Dywedodd Mr Dyfed Edwards bod y Bwrdd Iechyd yn awyddus i ddatblygu Hwb Meddygol yng Nghaergybi a bod y trafodaethau’n parhau gyda gwahanol asiantaethau a’r Cyngor. Nododd y byddai’n gohebu â’r Aelodau unwaith y bydd y manylion ar gael. Dywedodd y Prif Weithredwr bod pryderon ynglyn â’r diffyg cynnydd wrth geisio datblygu Canolfan Feddygol yng Nghaergybi. Dywedodd bod wir angen cyfleuster o’r fath yng Nghaergybi. Nododd bod yr Awdurdod yn awyddus i gydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd. Awgrymodd y dylid cyflwyno cais cynllunio er mwyn ceisio dod o hyd i gyllid cyfalaf pan fydd cyfle ar gael.
• Gofynnwyd sut mae’r Bwrdd Iechyd yn casglu’r ffigurau boddhad cwsmer drwy’r Meddygfeydd a p’un a yw’r un cwestiynau’n cael eu gofyn ym mhob meddygfa. Dywedodd Mr Paul Andrew bod cysondeb yn y modd y caiff data boddhad cwsmer ei gofnodi gan y Bwrdd Iechyd a’r modd y caiff gwybodaeth ei chasglu a’i rhannu gydag Aelodau’r Cyngor.
• Cyfeiriwyd at 13 o ddigwyddiadau “byth” a adroddwyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y 12 mis diwethaf. Holwyd p’un a oes data ar gael ynglyn â’r digwyddiadau “byth” yn Ysbyty Gwynedd a p’un a ydynt yn uwch yn y Bwrdd Iechyd yma na gweddill y Byrddau Iechyd. Dywedodd Mr Dyfed Edwards nad oedd ganddo’r wybodaeth yma wrth law ond y byddai’n gallu rhannu gwybodaeth ynglyn â hanes a chefndir y digwyddiadau hyn a darparu dadansoddiad i’r Aelodau maes o law.
• Holwyd ynglyn â’r posibilrwydd o ailagor yr Ysbytai Bwthyn er mwyn lleihau’r pwysau ar Ysbyty Gwynedd. Dywedodd Mr Edwards ei bod hi’n bwysig cael adnoddau cymunedol i drin cleifion ond mae cymaint o gleifion yn aros i gael eu rhyddhau o’r ysbyty ac mae hyn yn achosi problemau ac yn atal llif cleifion i mewn ac allan o’r ysbyty ac yn achosi problemau ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys. Cyfeiriodd at Dîm Gofal Uwch Môn sy’n trin pobl yn y cartref yn debyg iawn i’r gofal a fyddai wedi cael ei ddarparu yn yr Ysbytai Bwthyn flynyddoedd yn ôl. Dywedodd Mr Paul Andrew bod gwaith wedi cael ei gwblhau gyda darparwyr gofal allanol dros y 6 i 8 mis diwethaf. Mae’r darparwyr allanol wedi gweithio ledled y Bwrdd Iechyd a gyda’r 6 awdurdod lleol ac maent wedi cynghori’r Bwrdd bod gormod o bwysau ar y llwybr cleifion. Mae angen ymyrraeth glir er mwyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty cyn gynted â phosib er mwyn lleihau’r risg o haint a phroblemau symudedd ar ôl gorwedd mewn gwely am gyfnodau maith.
• Holwyd p’un a yw’r Bwrdd Iechyd yn codi tâl ar gleifion o dramor yn dilyn triniaeth. Dywedodd Mr Paul Andrew bod tâl yn cael ei godi ar ymwelwyr o dramor a bod adran gyllid y Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am hynny.
• Cyfeiriwyd at y cynnydd yn nifer y bobl â salwch iechyd meddwl ac achosion o hunanladdiad. Holwyd p’un a oes cynnydd mewn achosion ar Ynys Môn. Dywedodd Mr Tom Regan fod adolygiad thematig ar y gweill i’r achosion o hunanladdiad a gofnodwyd y llynedd. Yn unol â’r tueddiadau mewn blynyddoedd blaenorol, ledled Cymru dynion ganol oed sydd fel arfer yn cyflawni hunanladdiad yng Nghymru ac mae gwaith ar y gweill i edrych ar y tueddiadau. Nododd bod pobl sydd ddim yn adnabyddus nac wedi cofrestru â gwasanaethau iechyd meddwl yn dioddef a’u bod mewn perygl o gyflawni hunanladdiad. Mae’r Cydlynydd Rhanbarthol wrthi’n datblygu protocol. Cyfeiriodd at y gwasanaeth 111+2, a sefydlwyd 3 blynedd yn ôl sydd ar gael i bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl.
• Cyfeiriwyd at yr Ysgol Feddygol ym Mangor a’r ymgyrch i gael Ysgol Ddeintyddol yn y ddinas hefyd. Holwyd ynglyn â’r posibilrwydd o gael Ysgol Ddeintyddol yn yr ardal. Dywedodd Mr Dyfed Edwards bod yr Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Bangor yn llwyddiannus a bod cydweithio da rhwng yr Ysgol Feddygol a’r ysbytai o safbwynt lleoliadau. Dywedodd bod rhaid cefnogi myfyrwyr i ystyried meysydd arbenigol o fewn y Bwrdd Iechyd h.y. Meddygon Teulu, Llawfeddygon ayb. Fodd bynnag, mae disgwyliadau pobl wedi newid ac erbyn hyn mae staff eisiau cael cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith ac felly maent yn dewis gweithio’n rhan amser. Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai Ysgol Ddeintyddol yn dod i’r ardal.
• Gofynnwyd pwy sy’n gyfrifol ac yn atebol am y Dashfwrdd a phwy sy’n ei ariannu. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn rhannu’r cyfrifoldeb am y Dashfwrdd a bod cyfarfod yn cael ei gynnal bob dydd Mercher i adolygu achosion. Weithiau mae angen help gan wasanaethau eraill o fewn y Cyngor h.y. Gwasanaethau Tai. Mae’r gwasanaethau a ddarperir drwy’r Dashfwrdd yn cael ei hariannu gan bwy bynnag sy’n gyfrifol am achosion penodol ac felly mae’n amrywio. Dywedodd Mr Paul Andrew bod cytundeb rhannu data’n bodoli rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod i sicrhau bod gwasanaethau gwell yn cael eu darparu i drigolion.
PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd.
Dogfennau ategol: