Eitem Rhaglen

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo bod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod llawn ar 12 Mai, 2026 wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 15 Mai, 2026 a 13 Gorffennaf, 2026 drwy broses ar-lein a 6 sesiwn wyneb yn wyneb.   Cynhaliwyd un sesiwn yn benodol ar gyfer y sector busnes ar y cyd ag Awdurdod Cyllid Cymru yn Llangefni ar 22 Mehefin 2026.  Derbyniodd y Cyngor 2,098 ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein ac yn ystod y sesiynau wyneb yn wyneb.  Mae gwrthwynebiad cryf i’r Ardoll Ymwelwyr, gyda 70.8% o’r holl ymatebwyr yn gwrthwynebu neu’n dueddol o wrthwynebu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr, tra bo 25.1% yn cefnogi, neu’n dueddol o gefnogi.  Aeth ymlaen i ddweud bod gwendidau amlwg yn y ddeddfwriaeth wedi cael eu hamlygu a bod y gwendidau hynny’n ymwneud yn bennaf â gweinyddu a chasglu’r ardoll a’r ffaith y byddai’n rhaid i blant ifanc dalu’r ardoll.  Dywedodd yr Aelod Portffolio mai’r argymhelliad yw peidio â chefnogi cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr gan fod rhaid cefnogi’r diwydiant twristiaeth ar yr Ynys.  

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

•           Holwyd ynglŷn â’r weithdrefn ar gyfer ymateb i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r pryderon yn gysylltiedig â’r anghysondebau rhwng lefel yr ardoll y byddai pobl sy’n aros mewn carafanau a gwestai yn ei dalu.  Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yr anghysondebau’n ymwneud â’r modd y byddai’r ardoll yn cael ei chasglu wedi cael eu hamlygu yn ystod y broses ymgynghori.   Nododd mai’r argymhelliad yw bod y Prif Weithredwr, ar y cyd â’r Arweinydd, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am adolygiad o’r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar ar Ynys Môn.   Pwysleisiodd bod barn y bobl ar yr Ardoll Ymwelwyr yn hanfodol bwysig a’i bod hi’n amlwg, yn dilyn y broses ymgynghori, bod gwrthwynebiad chwyrn i’r ardoll a bod angen newid deddfwriaethol i sicrhau proses deg oherwydd demograffig a natur Ynys Môn gan fod twristiaeth yn bwysig i’r Ynys.   Dywedodd y byddai’n haws gweinyddu’r ardoll mewn ardaloedd trefol.

•           Holwyd ynglŷn ag effaith yr ardoll ar fusnesau a sut y byddai unrhyw incwm yn cael ei ddyrannu.  Eglurodd yr Aelod Portffolio nad yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu ystyried incwm yn deillio o’r ardoll fel rhan o’r broses ymgynghori. Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Pwyllgor Gwaith yn ymateb i anghenion busnesau twristiaeth bach a chanolig, sy’n ganolog i economi leol Ynys Môn.  Ychwanegodd bod y ddeddfwriaeth bresennol yn achosi heriau ar gyfer y sector a phwysleisiodd bod rhaid cefnogi twristiaeth gynaliadwy.

•           Nodwyd bod y Pwyllgor yn cytuno gyda’r argymhelliad bod y Prif Weithredwr, ar y cyd â’r Arweinydd, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o’r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar ar Ynys Môn, fodd bynnag holwyd pe byddai modd cynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn pwysleisio bod Ynys Môn yn unigryw gan ei bod yn Ynys.   Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai’n anodd i lywodraeth greu deddfwriaeth ar gyfer gwahanol ardaloedd.   Dywedodd y dylai’r Cyngor amlygu nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn gynaliadwy i fusnesau bach a chanolig ar yr Ynys ac amlygu’r gwendidau mewn deddfwriaeth o’r fath.   Dywedodd y prif Weithreder y byddai’n fanteisiol pwysleisio bod Ynys Môn yn ddibynnol ar fusnesau bach.  

•           Cyfeiriwyd at yr Asesiad o’r Effaith ar yr Economi sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad a holwyd p’un a yw’r ffigurau yn yr adroddiad yn gywir y gallai Ynys Môn elwa o £1.56m yn sgil cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr.  Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd bod heriau gyda’r setiau data a osodwyd gan y llywodraeth a bod y ffigurau’n amrywio’n sylweddol.  Nid oes tystiolaeth gyson ar gael ledled Cymru i edrych ar botensial yr Ardoll Ymwelwyr a’r risgiau’n gysylltiedig â’i chyflwyno.   Nododd y byddai hyn yn cael ei amlygu yn y llythyr at Lywodraeth Cymru.

•           Holwyd ynglyn â’r ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr a p’un a oedd  awdurdodau lleol wedi cael eu gorfodi i ymgynghori. Roedd rhai Aelodau’n meddwl ei bod hi’n gynamserol cyflwyno ardoll o’r fath heb wybodaeth ddigonol nac eglurder ar lefel y DU ynglyn â’r goblygiadau.   Eglurodd y Prif Weithredwr bod y ddeddfwriaeth yn nodi’r broses yn glir a bod rhaid i’r Cyngor ddilyn y broses hon cyn penderfynu mabwysiadu’r ardoll. Nododd bod yr ymgynghoriad yn rhan statudol o’r broses.   Nododd ei bod hi’n anodd asesu effaith yr ardoll ar ardaloedd gwledig a threfol.   Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai’r Cyngor Sir benderfynodd gynnal ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr yn ystod ei gyfarfod ar 12 Mai, 2026 er mwyn rhoi cyfle i drigolion a busnesau fynegi barn ar y cyfle i gyflwyno ardoll.  Mae amserlen o 12 mis ar gyfer ymgynghori a chyflwyno’r ardoll. 

•           Holwyd ynglyn â’r goblygiadau ar fusnesau o ran treth wrth gasglu’r Ardoll Ymwelwyr a’r ffaith na fyddai’r Awdurdod yn derbyn y swm yn llawn ar ôl trosglwyddo’r ardoll i Lywodraeth Cymru.  Dywedodd yr Aelod Portffolio bod gwendidau amlwg yn y ddeddfwriaeth o ran gweinyddu a chasglu’r ardoll.   Nododd bod ansicrwydd ynglyn â pha ganran yr ardoll a fyddai’n cael ei throsglwyddo i Awdurdodau Lleol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

•           Na ddylai’r Cyngor fabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr oherwydd yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r asesiadau effaith.

•           Y dylai’r Cyngor fonitro, adolygu ac yn ystyried y dystiolaeth ar effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd wedi dewis mabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol.   

•           Y dylai’r Prif Weithredwr, ar y cyd â’r Arweinydd, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o’r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar. Dylid rhannu llythyr o’r fath at Lywodraeth Cymru gyda’r holl aelodau etholedig.

 

Dogfennau ategol: