Derbyn cyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Sian Williams – Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru i'r cyfarfod.
Rhoddodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru gyflwyniad llafar i'r cyfarfod a thynnodd sylw at uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru drwy eu Cynllun Corfforaethol, sef cefnogi adferiad natur, datblygu gwytnwch i newid hinsawdd mewn cymunedau a lleihau llygredd ac atal niwed i'r amgylchedd. Tynnodd sylw at rôl a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff rheoleiddio sy'n cynghori ac yn rheoleiddio'r dull o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a sicrhau canlyniadau llesiant. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddiwr ar y diwydiant dŵr. Adroddwyd manylion y prosiectau strategol ar Ynys Môn i'r Pwyllgor ac yn benodol datblygiad Wylfa - Gwyndod, y Porthladd Rhydd, Coedwig Niwbwrch a Llanddwyn. Tynnwyd sylw at wybodaeth bellach ynglŷn â sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i risgiau Newid yn yr Hinsawdd yn sgil tonnau gwres a sychder, ffermio a chynhyrchu bwyd, peryglon llifogydd ac erydiad, adeiladu a chynnal a chadw amddiffynfeydd. Tynnodd sylw ymhellach at y gwaith a wnaed gyda chymunedau lleol a'r Awdurdod Lleol ynglŷn â materion traffig drwy bentref Niwbwrch ac mae trafodaethau'n parhau ynglŷn â'r problemau parcio i rai sy’n ymweld â Llanddwyn. Cyfeiriodd ymhellach at yr angen i gau Coedwig Niwbwrch dros y penwythnos oherwydd risgiau tân posibl.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-
• Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r cynlluniau sydd yn eu lle i ddelio â’r risgiau posibl o danau gwyllt, yn enwedig yng Nghoedwig Niwbwrch a Llanddwyn, ac a yw'r cynlluniau hyn wedi'u rhannu gyda'r Awdurdod Lleol a chyrff eraill sy’n bartneriaid. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod cynlluniau argyfwng yn eu lle, a bod trafodaethau dyddiol yn cael eu cynnal, yn enwedig yn ystod y don wres, ynglŷn â'r risgiau posibl o danau gwyllt, fel sy'n digwydd ym Mwlch Sychnant. Mae mapiau gwagio yn cael eu rhannu gyda'r Gwasanaethau Brys a'r Awdurdod Lleol os oes angen i bobl adael safleoedd.
• Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r pwerau rheoleiddio sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru dros Ddŵr Cymru ac yn enwedig achosion yn ymwneud â charthffosiaeth. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru mai Ofwat yw'r rheoleiddiwr statudol a’u bod yn ddiweddar wedi cynnig pecyn gorfodi gwerth £44.7m yn dilyn ei ganfyddiadau bod Dŵr Cymru wedi torri ei rwymedigaethau cyfreithiol wrth weithredu ei waith trin dŵr gwastraff a'i rwydwaith. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gorfodi Dŵr Cymru i roi systemau monitro ar waith dros y blynyddoedd diwethaf. Nododd, os oes ardaloedd sy'n cael effaith ar yr amgylchedd, yna gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio pwerau gorfodi i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau statudol.
• Gofynnwyd p’un ai a oedd cyfleusterau parcio ar ochr Malltraeth wedi cael eu hystyried i ysgafnhau’r pwysau ar y rhwydwaith priffyrdd tuag at Draeth Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod cyfleusterau parcio ar ochr Malltraeth wedi cael ei grybwyll yn ystod sesiynau galw heibio yng nghymuned Niwbwrch. Nododd fod gan bob opsiwn ei fanteision/anfanteision a bod risgiau yn enwedig ynglŷn ag ardal Malltraeth gan ei bod yn ardal llawer tawelach ac yn hafan i fywyd gwyllt ac adar; byddai angen ystyried goblygiadau ac effeithiau creu ffordd drwy'r ardal. Mae gwahanol opsiynau wedi'u hystyried er mwyn lliniaru'r problemau traffig ynghyd â’r posibilrwydd o greu cyfleusterau parcio a theithio i ffwrdd o'r ardal a allai fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
• Codwyd cwestiynau ynglŷn â phwy sydd wedi cyfrannu at y Cynllun Argyfwng Tân ar gyfer Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru gan mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw perchennog y tir, y corff hwnnw sy'n gyfrifol am y Cynllun Argyfwng. O ran Diogelwch Ymwelwyr a Chymunedol, byddai'r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am sicrhau bod gan bobl le diogel i gael eu hadleoli pe bai angen eu symud o'r ardal. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y byddai gan yr Awdurdod Lleol ac Asiantaethau Brys eraill rôl a chyfle i gyfrannu at y Cynllun Argyfwng. Nododd fod angen adolygu'r Cynllun oherwydd y tonnau gwres a'r gwyntoedd uchel er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw risgiau tân posibl fel y gwelwyd yn ardal Conwy yn ystod y dyddiau diwethaf. At hyn, dywedodd fod y Cyngor yn ymwybodol o gynnwys y Cynllun Argyfwng ond bod lle i adolygu ei gynnwys. Codwyd cwestiynau ymhellach ynghylch a yw lefelau bygythiad tanau posibl ar y safle yn cael eu monitro ac ydi’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn cyfrannu at y cynllun? Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod unrhyw fygythiad posibl yn sgil tân yn cael ei fonitro’n gyson, ac y gellir trefnu cyfarfod amlasiantaethol.
• Cyfeiriwyd at ddeiseb i'w chyflwyno i'r Senedd ar gyfer brechu Gwiwerod Coch oherwydd brech y gwiwerod. Gofynnwyd a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi'r ddeiseb am frechu'r Gwiwerod Coch yn erbyn brech y gwiwerod. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda'r Senedd. Nododd fod trafodaethau hefyd wedi'u cynnal gyda England Natural Heritage a’r Scottish Natural Heritage ynghylch ymchwil i frechu Gwiwerod Coch a'r bwriad yw adolygu budd brechu a sut y byddai rhaglen frechu yn gweithio. Ystyrir y byddai rhaglen ar lefel y DU yn fwy buddiol nag yng Nghymru yn unig.
• Cyfeiriwyd at strwythur cyflogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gyda 2,278 o weithwyr. Gofynnwyd a yw’r lefel yma o staff sy'n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru yn uchel. Amlinellodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru strwythur rheoli a chyflogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Nododd, gan fod gofynion a gwaith eang yn cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ei bod yn angenrheidiol cael strwythur cyflogaeth cadarn. Dywedodd ymhellach fod tua 200 o staff yn gweithio yn y Gogledd-orllewin. Gofynnwyd ymhellach a yw'r strwythur staffio ar gyfer y Gogledd-orllewin yn ddigonol i wneud y gwaith. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod y strwythur staffio yn y Gogledd-orllewin yn heriol ond bod yn rhaid iddynt ymgymryd â'u gofynion statudol.
• Codwyd cwestiynau ynglŷn â sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i ddatblygiadau cynllunio mewn perthynas â llifogydd posibl yn sgil lefelau dŵr yn codi. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghorai statudol o fewn y broses gynllunio. Nododd, os cyflwynir cais cynllunio ar gyfer datblygiad mawr, y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i'r ymgeisydd gyflwyno Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd. Byddai hwn yn mesur y perygl posibl o lifogydd i'r ardal gyfagos a gall Cyfoeth Naturiol Cymru wrthwynebu'r datblygiad os ydynt o'r farn y byddai'r cais yn risg. Dywedodd ymhellach fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghorai statudol o fewn y broses Cynllun Datblygu Lleol pan ystyrir datblygiadau newydd o ran capasiti rhwydwaith carthffosiaeth a thrin carthffosiaeth. Dywedodd fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda'r Awdurdod Cynllunio i ystyried perygl llifogydd ac unrhyw newidiadau sy'n ofynnol i'r cais. Codwyd cwestiynau pellach ynglŷn â pherygl posibl llifogydd o afonydd oherwydd datblygiadau cyfagos. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru mai cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw afonydd llai ac mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am afonydd mawr. Nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi'r Mapiau Perygl Llifogydd a’u bod yn cael eu rhannu gyda'r Awdurdod Lleol. Codwyd cwestiynau ychwanegol ynglŷn â chlirio sbwriel o afonydd a ph’un ai a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal archwiliadau rheolaidd i glirio'r afonydd. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod archwiliadau ychwanegol yn cael eu cynnal yn ystod misoedd y gaeaf yn hytrach nag yn ystod misoedd yr haf gan fod mwy o lystyfiant sy'n ei gwneud hi'n anodd gallu mynd i mewn i'r afonydd. Nododd y gall y cyhoedd roi gwybod am unrhyw berygl posibl o lifogydd trwy system gwyno ar-lein a dros y ffôn.
• Gofynnwyd pwy sy'n gyfrifol am y cronfeydd dŵr sy'n cyflenwi dŵr yfed. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru mai Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am ddŵr yfed ac Ofwat yw'r Arolygiaeth Dŵr Yfed. Nododd mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ddiogelwch cyhoeddus cronfeydd dŵr ac am wneud yn siŵr bod yr argaeau’n ddiogel.
• Gofynnwyd a yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn destun craffu ac a oes gan y cyhoedd gyfle i graffu ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfarfodydd cyhoeddus misol o'r Bwrdd a bod Aelodau'r Senedd hefyd yn craffu ar waith.
• Codwyd cwestiynau ynglŷn â rôl Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r ddwy bont ar draws Afon Menai. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru, gan fod gan Afon Menai yn cael ei diogelu drwy Ddeddfwriaeth Ewropeaidd, fod gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl gynghori o ran yr amgylchedd a'r dirwedd. Nododd fod trafodaeth wedi'i chynnal o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch y posibilrwydd o gael trydedd bont ar draws Afon Menai. Dywedodd ymhellach eu bod wedi holi barn pobl ifanc o Goleg Llandrillo/Menai ynglŷn â sut i ddatrys y problemau ynglŷn â chroesi'r Fenai yn y dyfodol.
Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Bennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru am fynychu'r cyfarfod. Diolchodd i'r Pwyllgor am godi mater y Cynllun Argyfwng ac yn enwedig yng ngoleuni'r tanau gwyllt ar Fwlch Sychnant yn ystod y dyddiau diwethaf. Nododd ei bod yn bwysig cael Cynllun Argyfwng yn ei le, yn enwedig ar gyfer Coedwig Niwbwrch sydd â'r risg uchaf o danau gwyllt posibl.
PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
GWEITHREDU
• Bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am y sefydliad sy'n gyfrifol am reoleiddio dŵr yfed yn ogystal ag esboniad ynglŷn â'r broses ar gyfer ystyried effeithiau'r datblygiadau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer yr Ynys mewn perthynas â darparu dŵr yfed.
• Bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu'r ddolen ar-lein briodol y gall Aelodau ei rhannu gyda'r etholwyr, gan amlinellu sut y gallant gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol.
Dogfennau ategol: