Derbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Neville Evans:-
‘Rwyf yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd a dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel a nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks.
Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, rwy’n galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfernethu’r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’
Cofnodion:
Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Neville Evans : -
“Rwy’n galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel a nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks.
Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, galwaf ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans bod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud argymhellion a fyddai’n cryfhau cymunedau Cymraeg a bod adroddiad yn cynnwys 57 o argymhellion wedi’i gyhoeddi yn 2024. Roedd yn ei ystyried yn fraint o fod wedi’i fagu yn Gymraeg yng nghymuned Bryngwran. Nododd fod dirywiad wedi’i weld mewn siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau lleol dros y 30 mlynedd diwethaf yn ogystal â defnydd o’r Gymraeg o fewn y cymunedau hynny. Dywedodd y Cynghorydd Evans fod yr Iaith Gymraeg angen ei gwarchod ac y dylid annog a chefnogi pobl i ddefnyddio’r iaith. Dywedodd fod adroddiad Dr Simon Brookes yn fanwl ac yn gynhwysfawr ac yn awgrymu ffyrdd o ddatblygu’r Gymraeg. Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans hefyd at yr angen i ddiogelu enwau Cymraeg ar eiddo.
Bu’r Arweinydd eilio’r Cynnig gan ddweud ei fod yn amserol wrth i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ar yr Ynys ddiwedd Mai. Dywedodd ei fod yn mynychu sesiynau dysgu Cymraeg o fewn ei gymuned a’i bod yn galonogol gweld fod pobl yn frwdfrydig dros ddysgu Cymraeg. Dywedodd hefyd fod Ynys Môn yn un o ddwy Sir sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg gan fod 70% o blant rhwng 3 a 15 oed yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg fel rhan bwysig o Gynllun y Cyngor. Mae gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn rhoi arweiniad clir ac yn pwysleisio mai’r camau allweddol cyntaf yw hyrwyddo’r Gymraeg a chreu platfform o bolisïau ystyrlon. Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud y bydd angen gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r argymhellion o fewn adroddiad y Comisiwn.
Nododd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ei fod yn cefnogi’r Cynnig ac unrhyw ddull arall o ddatblygu’r Gymraeg o fewn cymunedau lleol. Dywedodd ei fod yn bwysig sicrhau cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc ar yr Ynys gan fod gormod ohonynt yn gorfod gadael yr Ynys i ddod o hyd i waith.
Cytunodd y Cynghorydd Aled Morris Jones â’i gyd-aelod gan ddweud y byddai cyfleoedd cyflogaeth a chadw pobl ifanc ar yr Ynys yn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Nododd, gyda safle’r Wylfa yn cael ei adnabod ar gyfer lleoli tri SMR, y bydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth tra bo potensial am fwy o SMR’s ar y safle.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynnig i alw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel a nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks. Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, galwodd ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’