Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro os oedd gan unrhyw un ddiddordeb personol yn yr eitem hon, bod angen iddynt ddatgan diddordeb gan mai’r mater gerbron y Cyngor yw penderfynu a yw’r Awdurdod yn mynd allan i ymgynghori ar gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ynys Môn. Os yw’r Cyngor yn penderfynu ymgymryd â phroses ymgynghori gyhoeddus a bod adborth ymgynghoriad o’r fath yn cael ei adrodd yn ôl arno i’r Cyngor am benderfyniad terfynol, bydd y diddordeb personol yn newid i fod yn ddiddordeb sy’n rhagfarnu. Dywedodd ymhellach os oes unrhyw Aelod yn ystyried bod ganddynt ddiddordeb personol y dylent gysylltu â’r Adran Gyfreithiol er mwyn gwneud cais i’r Pwyllgor Safonau am ganiatâd arbennig a allai alluogi Aelodau i gymryd rhan mewn trafodaethau.
Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro na ddylai fynegi eu barn ar yr ardoll ymwelwyr yn ystod y Pwyllgor hwn gan mai’r eitem sydd gerbron yw ystyried a ddylai’r Cyngor gynnal proses ymgynghori gyhoeddus.
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth ac Eiddo, y Cynghorydd Alun Roberts na fyddai’n cyflwyno’r eitem gan y bydd y datgan diddordeb personol gan fod aelod agos o’i deulu yn cael ei gyflogi yn y sector twristiaeth, na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ac y byddai’n atal ei bleidlais. Dywedodd mai’r Arweinydd fyddai’n cyflwyno’r eitem i’r Cyngor.
Bu’r cynghorwyr Celfyn Furlong, Douglas Fowlie a Derek owen ddatgan diddordeb personol yn yr eitem. Fe wnaeth Mr Arwel Owen, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddatgan diddordeb personol.
Nododd yr Arweinydd fod yr adroddiad a gyflwynir gerbron y Cyngor er mwyn penderfynu a ddylid cynnal proses ymgynghori gyhoeddus o ran cyflwyno ardoll ymwelwyr ar gyfer pobl sy’n aros mewn llety gwyliau yng Nghymru. Nododd mai nod yr ymgynghoriad yw gwahodd barn ar yr ardoll arfaethedig gan drigolion, busnesau lleol, ymwelwyr a sefydliadau partner. Bydd yn ceisio cael gwell ddealltwriaeth o farn leol, effeithiau posibl ac unrhyw bryderon cyn ystyried unrhyw benderfyniad posibl. Dywedodd ei fod wedi cael nifer o drafodaethau â’r sector twristiaeth a busnesau eraill am effaith yr ardoll ymwelwyr. Aeth yr arweinydd ymlaen i ddweud fod Cynghorau cyfagos Gwynedd a Chonwy yn bwriadu ymgymryd â phroses ymgynghori a bod Ynys Môn yn ystyried ei bod yn synhwyrol cydweithio â’r Cynghorau hynny o ran camau ac amserlen, er y byddai pob Cyngor yn cynnal ei ymgynghoriad unigol, annibynnol.
Gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones am ymatebion gan y diwydiant twristiaeth i Lywodraeth Cymru ac a oedd y broses ymgynghori yn angenrheidiol a’r costau cysylltiedig. Nododd, petai ardoll yn cael ei gyflwyno y byddai’n faich gweinyddol ar fusnesau. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad y Cwsmer fod prosesau ymgynghori cyhoeddus yn cael eu gwneud ar-lein yn bennaf ac mai costau cyfyngedig oedd yn gysylltiedig â hynny.
Roedd Aelodau’r Grŵp arweiniol yn ystyried fod gan drigolion a busnesau ar yr Ynys yr hawl i fynegi barn ar yr ardoll ymwelwyr.
Nododd y Cynghorydd Kenneth P Hughes nad oedd yn erbyn y broses ymgynghori a nododd ei bod hi’n bwysig gwrando ar farn trigolion Môn.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes ei fod yn cefnogi’r broses ymgynghori ar yr ardoll ymwelwyr ond y dylai gwybodaeth am sut y bydd yr arian yn cael ei chasglu gael ei chynnwys fel rhan o’r ymgynghoriad.
Holodd y Cynghorydd Aled Morris Jones a fyddai cynnwys bwriad arfaethedig yr ardoll yn rhagfarnu’r broses ymgynghori. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro petai’r Cyngor yn penderfynu ymgymryd â phroses ymgynghori ac yn yn dilyn hynny bod proses o gyflwyno ardoll ymwelwyr yn digwydd y byddai mesurau statudol yn cyfyngu ar y defnydd o’r arian a gesglir gan yr ardoll. Bydd y broses ymgynghori bellach yn nodi sut y gallai’r Cyngor wario’r ardoll a gesglir ond ni fydd yn cyfeirio at brosiectau penodol.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Atodiad A yr adroddiad sy’n cyfeirio at ‘Ddisgwyliadau Ymgynghori Llety Ymwelwyr’ ac sy’n cyfeirio at sut y gellir buddsoddi’r ardoll a’i fod yn ofyniad, fel rhan o’r ymgynghoriad, i alluogi pobl i allu gwneud penderfyniadau gwybodus a chyfrannu’n effeithiol o safbwynt busnesau, trigolion a chymunedau lleol.
Yn dilyn y bleidlais o 27 o blaid, 3 yn erbyn ac 1 yn atal
PENDERFYNWYD cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).
Dogfennau ategol: