Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2025/26.
Cyflwynodd yr Arweinydd ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025/2026 a nododd ei bod yn flwyddyn bwysig a chyffrous ar gyfer cyflawni potensial a chyfleoedd economaidd newydd ar yr Ynys gyda’r cyhoeddiad ym mis Tachwedd mai safle Wylfa fyddai’r safle cyntaf ym Mhrydain i gael adweithyddion SMR. Nododd fod hyn yn ganlyniad i lobïo traws bleidiol gan Aelodau Seneddol, Aelodau’r Senedd ac Aelodau’r Awdurdod hwn. Mae gwaith bellach wedi’i ymgymryd ag ef er mwyn sicrhau bod buddion y datblygiad arfaethedig yn cyrraedd pobl Môn ac mae’n bwysig bod llwybrau sgiliau yn cael eu creu ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth. Dywedodd ei fod yn bleser arwyddo cytundeb cydweithio ffurfiol â Great British Nuclear fis diwethaf. Ym mis Mawrth, cafodd carreg filltir bwysig ei chyrraedd gyda Porthladd Rhydd Ynys Môn wrth arwyddo Memorandwm o ddealltwriaeth efo Llywodraeth y DU a Llywodraeth cymru er mwyn rhyddhau’r cyllid cychwynnol o £25 miliwn a fydd yn galluogi’r Porthladd Rhydd i symud ymlaen i fod yn weithredol erbyn Gwanwyn 2026. Gall y Cyngor a phartneriaid eraill fwrw ymlaen â chynlluniau sy’n cryfhau rôl yr Ynys mewn meysydd megis ynni, gweithgynhyrchu a masnach er mwyn hyrwyddo ffyniant hirdymor ar Ynys Môn ac yng ngogledd Cymru. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn dymuno diolch i staff yr Adran Datblygiad Economaidd am eu gwaith o sicrhau’r buddsoddiad o £10.4 miliwn drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er mwyn cefnogi twf economaidd yn ardal Amlwch a hynny drwy adnewyddu’r Adeilad Morwrol ym mhorth Amlwch ac adeiladu 10 uned fusnes ar Stad Ddiwydiannol Amlwch. Mae sicrhau bod yr economi yn ffynnu a darparu safon uchel o gyfleoedd cyflogaeth yn hanfodol er mwyn helpu busnesau lleol i fanteisio ar gyfleoedd ac i helpu pobl ifanc i aros ar yr Ynys.
Nododd yr Arweinydd ei fod yn croesawu canfyddiadau’r arolwg diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ystod eu hymweliad yn 2026 fe wnaethant adolygu’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a chanlyniad hynny oedd iddynt ddarganfod bod plant a theuluoedd yn cael eu cefnogi gan dîm gofalgar, medrus ac ymroddedig a bod nifer o enghreifftiau o arfer dda. Cafodd Gwasanaeth Maethu Môn hefyd ei archwilio gyda’r Archwilwyr yn amlygu bod gan blant mewn gofal sefydlogrwydd a’u bod yn derbyn cefnogaeth i allu meithrin perthnasau cadarnhaol efo Gofalwyr Maeth. Cafwyd canmoliaeth hefyd i’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Drawma, yr oruchwyliaeth barhaus a’r rhwydweithiau cefnogi sydd gan Ofalwyr Maeth. Diolchodd yr Arweinydd i’r Gofalwyr Maeth am eu gwaith wrth ofalu am blant a phobl ifanc Ynys Môn.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at nifer o Wobrau a dderbyniwyd gan y Cyngor fel y nodwyd yn ei adroddiad. Cyfeiriodd at ymrwymiad a gwaith caled staff y Cyngor er budd trigolion Ynys Môn.
Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Arweinydd am ei adroddiad a nododd fod gweithwyr yn parhau i gael eu cyflogi yn safle’r Wylfa ac mewn safleoedd digomisiynu eraill ar draws y DU. Cyfeiriodd at y buddsoddiad yng ngogledd Ynys Môn a nododd fod angen cydnabod cefnogaeth yr NDA i’r prosiectau hyn. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn derbyn fod yr NDA yn bartner allweddol yng ngogledd yr Ynys ac ar draws Ynys Môn a’i fod yn ymwybodol fod nifer o bobl yn dal i gael eu cyflogi yn safle Wylfa.
Aeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ymlaen i godi fod plant i weld yn cael eu ceisiadau i gofrestru gydag ysgolion yr oeddent yn ffafrio wedi eu gwrthod a cyfeiriodd at achos penodol yn ei Ward. Nododd fod yr ysgol a’r Llywodraethwyr yn fodlon derbyn disgyblion ychwanegol i’r ysgol. Nododd fod yr argyfwng costau byw yn cynyddu’r pwysau ar rieni yn gorfod teithio ymhellach i fynd â’i plant i’r ysgol. Ymatebodd yr Aelod Portffolio Addysg ac iaith Gymraeg fod gan bob ysgol unigol ‘nifer a dderbynnir’ o blant ym mhob ysgol. Nododd fod proses apelio yn bodoli os yw rhieni yn anghytuno ag unrhyw benderfyniad. Ymatebodd y Cynghorydd Aled Morris Jones nad oedd hawl apelio gydag achosion meithrin. Nododd y Prif Weithredwr bod rheoliadau sy’n rhaid i’r Awdurdod Addysg eu dilyn ac y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y man mewn perthynas â’r achos penodol yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato. Nododd yr Arweinydd ei fod yn rhannu rhwystredigaeth rhieni o ran y niferoedd y caniateir i ysgolion eu derbyn a bod lobio wedi digwydd efo Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio eu cael i adolygu’r polisïau presennol.
Dogfennau ategol: