Eitem Rhaglen

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu’r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei chyfnod yn yn swydd y mae ei thymor yn dod i ben.

Cofnodion:

Gwnaethpwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-

 

·          Diolchodd y Cadeirydd i’r holl wirfoddolwyr ledled yr Ynys sydd wedi bod yn brysur yn codi arian ac yn gwneud trefniadau ar gyfer croesawu’r Eisteddfod yr Urdd i Ynys Môn a gynhelir rhwng 25 a 31 Mai. Dymunodd yn dda i’r holl blant a phobl ifanc fydd yn cystadlu yn ystod yr wythnos.   

 

·          Mynegwyd llongyfarchiadau i Mr Derek Evans, Llannerch-y-medd, ar gael ei anrhydeddu gan yr Urdd drwy ennill Tlws John a Ceridwen Hughes. Caiff y tlws ei wobrwyo gan yr Urdd yn flynyddol i wirfoddolwyr arbennig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.  Bydd seremoni arbennig ar ei gyfer yn Eisteddfod yr Urdd Môn diwedd y mis. 

 

·          Mynegodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau hefyd i bawb o’r Ynys fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro ym mis Awst.  Bu longyfarch Malachy Owain Edwards, Llanfairpwll a fydd yn cael ei anrhydeddu gyda’r Wisg Werdd yn yr Eisteddfod eleni. 

 

·          Dymunodd y Cadeirydd yn dda i bawb o’r Ynys fydd yn cymryd rhan yn y Sioe Frenhinol eleni.  Ynys Môn fydd y Sir nawdd i’r Sioe yn 2027 felly bydd yn flwyddyn brysur i’n cymunedau amaethyddol.

 

·          Bu’r Cadeirydd longyfarch RAF y Fali hefyd ar ddathlu 85 mlynedd ers ei sefydlu yn ddiweddar.   Nodwyd y dathliadau gyda ymweliad gan y Tywysog William a fu’n hyfforddi ac yn gweithio yn yr orsaf am gyfnod. 

 

·          Dymunodd y Cadeirydd yn dda i bawb fydd yn sefyll arholiadau TGAU, Lefel A ac unrhyw gymwysterau eraill eleni. Mae’r Cyngor yn Rhiant Corfforaethol, a dymuniadau arbennig hefyd i’r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal ar eu arholiadau dros yr wythnosau nesaf.

 

·          Rhoddwyd llongyfarchiadau i Ellie Corcoran o Ynys Môn a enillodd teitl Miss Wales 2026 yn ddiweddar.  Mae Ellie yn gwirfoddoli gyda Gyrfa Cymru ac yn cynorthwyo pobl ifanc.   Mae hi hefyd wedi codi mwy na £40,000 ar gyfer elusennau amrywiol.  

 

·          Llongyfarchiadau i wasanaeth Môn Actif ar lwyddiant cenedlaethol ar ôl derbyn gwobr ‘Building Belonging’ yng Ngwobrau Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid 2026. 

 

·          Llongyfarchiadau i’r Iorwerth Arms, Bryngwran am dderbyn gwobr Arfor am y Fenter Gymdeithasol fwyaf Cymraeg yn y byd. 

 

·          Llongyfarchiadau mawr i 101 o bobl ifanc blwyddyn 10 o Ysgolion Uwchradd yr Ynys sydd wedi llwyddo i gwblhau taith efydd Gwobr Dug Caeredin, dros 2 ddiwrnod yn ystod gwyliau’r Pasg.   Diolchodd yn arbennig i’r Gwasanaeth Ieuenctid am gydlynu ac arwain y teithiau yn ogystal a chefnogaeth gan y tîm awyr agored yn yr Urdd Mae gwasanaeth Ieuenctid Ynys Môn yn parhau i fod efo’r nifer uchaf o bobl ifanc yn cyflawni achrediadau Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru. 

 

·          Diolchodd y Cadeirydd i’r holl staff a fu’n brysur yn rhan o drefniadau cynnal etholiad Senedd Cymru yn etholaeth Bangor Conwy Môn yr wythnos diwethaf. Bu’r Cadeirydd longyfarch y chwe ymgeisydd llwyddiannus a dymuno’n dda iddynt yn eu rolau newydd.  

 

 

*         *          *          *          *

 

Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Jeff Evans a’i deulu gan fod ei ferch wedi derbyn llawdriniaeth sylweddol yn Lerpwl yn ddiweddar.

 

Dymunwyd yn dda i Mrs Nia Owen, gwraig cyn Arweinydd y Cyngor, Mr Bryan Owen, sy’n dod dros llawdriniaeth diweddar.

 

*          *          *          *          *

 

 

Cydymdeimlwyd â theulu Mrs Gladys Pritchard o Gaergybi a fu farw’n ddiweddar. Gweithiodd Mrs Pritchard yn galed i hyrwyddo’r Gymraeg ar yr Ynys ac roedd yn weithgar iawn yn ei chymuned. Cafodd ei derbyn i’r Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â theulu a ffrindiau y cyn gynghorydd, Mr Eric Jones o Llanfihangel Esceifiog. 

 

Bu’r Cynghorydd Aled Morris Jones a’r cynghorydd Carwyn Jones dalu teyrnged i Eric Jones a chyfeirio at y ffaith iddo gael ei ethol i’r Cyngor yn 2007 ac iddo wasanaethu ar Gyngor Cymuned Llanfihangel Esceifiog am 30 mlynedd.   Gweithiodd hefyd i Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn yn yr Adran Drethi am dros 25 mlynedd a roedd yn Arweinydd Ieuenctid mewn Clybiau Ieuenctid ar yr Ynys. 

 

Cydymdeimlwyd â theulu Mr Gwyn Owen o’r Fali a oedd yn un o sylfaenwyr MônFM ac yn un o’r darlledwyr rheolaidd ar yr ORsaf Radio. 

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw aelod etholedig neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. 

 

Safodd yr Aelodau a Swyddogion fel arwydd o barch.