Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor ddyletswyddau cynllunio ac
ymateb brys o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae'r Cyngor yn brif
ymatebwr ac yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol
Gogledd Cymru trwy Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau
Gogledd Cymru. Dywedodd, yn dilyn ymgynghoriad a chadarnhad trwy'r broses
wleidyddol ym mhob Awdurdod Lleol, bod swyddogaethau Cynllunio at Argyfwng pob
un o'r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi'u cyfuno'n un gwasanaeth o
dan gytundeb rhwng awdurdodau ers 2014. Ychwanegodd, yn ynys gyda dwy bont dros
y Fenai, ei bod yn bwysig bod y Cyngor hwn yn gwbl ymroddedig yn y Gwasanaeth
Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol fel ei fod yn mynd i’r afael ag unrhyw
argyfwng a allai ddigwydd ar yr Ynys a bod y gwasanaethau brys yn bresennol
mewn unrhyw ddigwyddiad. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr Adroddiad Blynyddol
a nododd ei fod yn rhoi sicrwydd bod y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng
Rhanbarthol yn wasanaeth gwydn a bod y Cyngor hwn yn cydweithio’n llawn â'r
gwasanaeth.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-
- Codwyd cwestiynau
ynghylch y risgiau allweddol sy'n wynebu'r ynys a pharodrwydd y Cyngor o
ran argyfyngau yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm
Arweinyddiaeth) gan ddweud y câi risgiau eu nodi a'u rheoli'n effeithiol
yn ystod trafodaethau mewn Fforwm Gwydnwch a gynrychiolir gan yr Awdurdod.
Nododd fod yna Gofrestr Risg Genedlaethol a bod y Gwasanaeth Cynllunio at
Argyfwng Rhanbarthol a'r Cyngor yn cyfrannu at adnabod unrhyw risgiau
posibl. Ychwanegodd mai toriadau mewn pŵer, stormydd, seibr-ddiogelwch, ac effeithiau ar wydnwch pont Menai
a phont Britannia oedd y prif risg allweddol. Dywedodd y Prif Weithredwr
ei fod o’r farn bod yr Awdurdod yn barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, gan
fod y lefelau llywodraethu a chyfranogiad yn eu lle; fodd bynnag, roedd yn
dibynnu ar gefnogaeth sefydliadau brys eraill. Mynegodd mai cadernid y
ddwy bont a’r posibilrwydd y gallai'r ddwy bont gael eu cau’r un pryd oedd
y prif bryderon, gan y gallent beri problemau mawr pe ceid argyfwng ar yr
Ynys. Dywedodd ei bod yn bwysig parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i
gydnabod bod rhaid i’r ddwy bont fod yn wydn ac y gellid dibynnu arnynt.
- Cyfeiriwyd at y
risg o danau gwyllt yng Nghoedwig Niwbwrch oherwydd y tywydd sych, gan mai
dim ond un briffordd sydd trwy bentref Niwbwrch ac allan ohono a dim ond
un maes parcio yn y cyffiniau. Codwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau
oedd ar waith i gefnogi’r trefniadau cynllunio at argyfwng i fynd i’r
afael â thanau gwyllt posibl yn yr ardal ac i ba raddau yr ymgynghorwyd â
phartneriaid allanol. Ymatebodd y Prif Weithredwr drwy ddweud mai Cyfoeth
Naturiol Cymru oedd yr awdurdod cyfrifol ar gyfer Coedwig Niwbwrch a bod
ganddynt gynllun ymateb brys ar waith. Nododd nad oedd y Cyngor wedi bod
yn rhan o unrhyw ymarfer brys gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd yr
Aelod Lleol dros Niwbwrch fod ganddo bryderon nad oedd yr Awdurdod Lleol
yn rhan o unrhyw broses ymarfer brys gyda Chyfoeth Naturiol Cymru mewn
perthynas â Choedwig Niwbwrch. Dywedodd y Cadeirydd y dylai'r Gwasanaeth
Tân ac Achub, hefyd, fod yn ymwybodol o danau gwyllt posibl. Dywedodd y
Prif Weithredwr y byddai'r mater yn cael ei gyfeirio i'w drafod gyda
Chyfoeth Naturiol Cymru maes o law.
- Cyfeiriwyd at y
canllawiau i Aelodau Etholedig oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Codwyd
cwestiynau ynghylch y cynlluniau oedd ar waith i wneud yn siŵr bod yr
Aelodau'n ymwybodol o'u rôl. Ymatebodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm
Arweinyddiaeth) drwy ddweud fod cwrs e-ddysgu ar gael drwy'r pwll dysgu i
Aelodau Etholedig ei weld. Nododd y gellid trefnu Sesiwn Briffio gydag
Aelodau Etholedig, os oedd angen. Dywedodd yr Is-gadeirydd y cyfeirir yn
Llawlyfr yr Aelodau Etholedig at rif ffôn pencadlys y Cyngor pan fo aelod
o’r cyhoedd yn dymuno ffonio mewn argyfwng. Dywedodd fod trigolion wedi
bod yn cwyno nad oeddynt yn gallu cael ateb wrth ffonio rhif ffôn
pencadlys y Cyngor. Ymatebodd y Prif Weithredwr ei fod yn derbyn y
rhwystredigaeth pan nad yw pobl yn gallu cael ateb wrth ffonio'r Cyngor.
Pwysleisiodd bwysigrwydd bod aelodau etholedig yn cyfeirio unrhyw
gŵyn o'r fath ynglŷn â'r system ffôn yn syth at swyddogion
perthnasol, yn unol â'r canllawiau a gyflwynwyd yn flaenorol. Dywedodd fod
y Cyngor, ar hyn o bryd, yn y broses o gael system ffôn newydd a'r gobaith
oedd y byddai’n gwella gwaith rheoli a monitro galwadau. Cydnabu fod yna
gyfnodau prysur yn y galw am rai gwasanaethau yn y Cyngor h.y.
Budd-daliadau Tai a Gwasanaethau Tai. Ychwanegodd mai’r Gwasanaethau
Argyfwng, fwyaf tebyg, fyddai’n arwain ar unrhyw argyfwng pe ceid un ac y
byddai'r Awdurdod yn rhan o'r broses ymateb trwy'r Gwasanaeth Cynllunio at
Argyfwng. Ni fyddai’r system ffôn bresennol yn cael unrhyw effaith ar
allu'r Cyngor i ymateb i unrhyw argyfwng
- Cyfeiriwyd at y
trafodaethau diweddar ynghylch symud lleoliad Gwasanaeth Ambiwlans Awyr
Cymru. Codwyd cwestiynau ynghylch a oedd Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru
yn rhan o Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn
enwedig pan fu trafodaeth yn y cyfarfod hwn ynghylch gwydnwch y pontydd.
Ymatebodd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol
Cynghorau Gogledd Cymru bod Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth
arweiniol iechyd a’u bod yn trafod sut maent yn ymateb i unrhyw argyfwng
lle bod angen Ambiwlans Awyr. Dywedodd yr Aelod Portffolio dros
Wasanaethau Oedolion y câi Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ei drafod mewn
cyfarfodydd gyda’r Bwrdd Iechyd ond oherwydd y tywydd garw rhaid ystyried
nad yw’r Ambiwlans Awyr yn gallu fforddio eu gwasanaethau. Holwyd a fyddai
Ysbytai Penrhos Stanley a Chefni yn cael eu cynnwys mewn unrhyw broses
frys pe ceid digwyddiad mawr a’r ddwy bont ar gau a dim Gwasanaeth
Ambiwlans Awyr ar gael. Cyfeiriwyd, hefyd, at y ffaith fod nifer y Llongau
Mordeithio oedd yn ymweld â'r Ynys wedi cynyddu
ac y rhagwelid y byddai 92 o Longau Mordeithio’n
ymweld yr haf nesaf. Nododd y Prif Weithredwr y byddai Awdurdod Porthladd
Caergybi yn arwain ar unrhyw argyfwng yn y Porthladd, fel rhan o'u cynlluniau
argyfwng. Ymatebodd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaethau Cynllunio at Argyfwng
Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru gan ddweud fod prosesau yn eu lle i
hyfforddi partneriaid amlasiantaethol ac ymarfer
gyda nhw mewn perthynas ag unrhyw argyfwng ar yr Ynys. Dywedodd y Prif
Weithredwr mai’r Gwasanaeth Ambiwlans, y Bwrdd Iechyd a Gwasanaeth
Ambiwlans Awyr Cymru a benderfynai pryd roedd angen Ambiwlans Awyr ar
gyfer unrhyw argyfwng. Holwyd a gysylltwyd ag Awyrlu Brenhinol y Fali i
ofyn eu cymorth pe ceid argyfwng ar yr Ynys. Ymatebodd y Rheolwr
Rhanbarthol y ceid trafodaeth yn y Gwasanaethau Cynllunio at Argyfwng
Rhanbarthol ynghylch canolfannau’r Awyrlu Brenhinol, ond nid oedd yn
ymwybodol y byddai gan Awyrlu Brenhinol y Fali unrhyw ddarpariaeth i
gynorthwyo pe ceid argyfwng. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai angen
cymorth a chaniatâd Llywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r
Lluoedd Arfog/ yr Awyrlu Brenhinol (gyda phroses benodol i’w dilyn).
- Cyfeiriwyd at y
ffaith bod angen cynnwys gwybodaeth leol ychwanegol yn yr Adroddiad
Blynyddol gan fod yr adroddiadau'n canolbwyntio ar bersbectif rhanbarthol.
Roedd angen cynnwys materion penodol yn ymwneud ag Ynys Môn a bod y
Pwyllgor hwn yn gallu gweld sut roedd yr Awdurdod yn ymateb i unrhyw
argyfwng a gyfyd. Ymatebodd Rheolwr Rhanbarthol Gwasanaeth Rhanbarthol
Cynllunio at Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru gan ddweud y gellid cynnwys
gwybodaeth am ymateb brys yr Awdurdod mewn adroddiadau’r dyfodol fel bod
modd i’r Pwyllgor hwn allu cymharu â gweddill y Rhanbarth.
PENDERFYNWYD nodi cynnydd gwaith Gwasanaeth Cynllunio at
Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru 2022/23.
CAMAU GWEITHREDU:
·
Trefnu Sesiwn Briffio i Aelodau Etholedig ynghylch eu rôl
o fewn y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng.