Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r
Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Oedolion mai nod Bwrdd Partneriaeth
Gogledd Cymru oedd gweithio ar y cyd ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol i helpu i gefnogi cymunedau gwydn a sicrhau gwasanaeth di-dor i
unigolion yr oedd angen gofal a chymorth arnynt. Nododd mai dyma Adroddiad
Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru am 2022/23, fel oedd yn
ofynnol yn Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
yr oedd pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei baratoi, ei gyhoeddi ac yn ei
gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad wedi'i
osod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cwblhau'r Adroddiad
Blynyddol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol
yn amlygu'r gwaith oedd wedi ei gyflawni’n rhanbarthol ac yn isranbarthol gyda'r
Cynllun Ardal, a nodai'r Cynllun Awtistiaeth, y Cynllun Gofalwyr, y Cynllun
Gofalwyr Ifanc, y Cynllun Plant a Phobl Ifanc a'r Strategaeth Anawsterau Dysgu.
Nododd, hefyd, y canolbwyntiwyd ar anghenion plant a phobl ifanc yng Ngogledd
Cymru ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y broses ariannu cyfalaf.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-
- Codwyd cwestiynau
ynghylch rôl a phwrpas y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Ymatebodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan ddweud fod y broses
lywodraethu’n gymhleth yn y Bwrdd Partneriaeth. Nododd y gellid egluro rôl
a phwrpas y Bwrdd Partneriaeth mewn Sesiwn Briffio i Aelodau Etholedig.
- Codwyd cwestiynau
ynghylch y berthynas rhwng Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol ac Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau
Cymdeithasol. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy
ddweud y câi'r ddau adroddiad eu hymgorffori yn ei gilydd gan fod y cyllid
cyfalaf i ariannu llawer o brosiectau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn
cael ei ariannu'n rhanbarthol.
- Codwyd cwestiynau
ynglŷn â rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wrth hwyluso sefyllfa
nifer uchel o gleifion oedd yn methu cael eu rhyddhau o Ysbyty Gwynedd i
fynd adref i’w preswylfa barhaol oherwydd nad oedd darpariaeth Gofal ar eu
cyfer. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan ddweud bod
rhaid i'r Awdurdod Lleol drafod anghenion claf, y mae angen pecyn gofal
arno, gyda'r darparwyr Gofal yn dilyn asesu’r claf hwnnw. Nododd bod
perthynas waith agos rhwng y Bwrdd Iechyd ac Adran y Gwasanaethau
Cymdeithasol ym Môn i ddarparu gofal mewn Cartrefi Preswyl cyn i glaf allu
dychwelyd i’w brif breswylfa. Roeddynt, hefyd, yn trafod gyda theulu’r
claf i ganfod a allent gynorthwyo i ofalu amdano cyn rhoi pecyn gofal yn
ei le. Dywedodd fod yna broblem recriwtio genedlaethol yn y sector gofal
gan nad oedd y tâl yn ddeniadol i bobl ymgeisio am swyddi yn y sector
hwnnw. Dywedodd mai parhau fyddai problemau parhaus cleifion na allant
gael eu rhyddhau o ysbytai, oni byddai Llywodraeth Cymru’n mynd i'r afael
â'r mater hwn.
- Codwyd cwestiynau
ynghylch i ba raddau yr oedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi
cyflawni ei flaenoriaethau allweddol yn ystod 2022/2023 a beth oedd
blaenoriaethau allweddol y Bwrdd am 2023/2024. Ymatebodd y Pennaeth
Cydweithio Rhanbarthol gan ddweud ei bod yn hyderus bod y Bwrdd
Partneriaeth wedi cyflawni ei flaenoriaethau allweddol yn ystod 2022/2023
ac amlygodd i'r Pwyllgor y prosesau llywodraethu o ran y cyllid cyfalaf a
dderbyniwyd tuag at y prosiectau yn y Bwrdd. Dywedodd ei bod o’r farn nad
oedd y Bwrdd wedi rhoi’r flaenoriaeth ddyladwy i’r gwasanaethau plant yn y
blynyddoedd blaenorol. Ychwanegodd fod yr Awdurdod hwn wedi gwneud gwaith
sylweddol yn y gwasanaethau plant i godi proffil a phwysigrwydd y
darpariaethau i blant ar draws Gogledd Cymru. Roedd y Bwrdd wedi rhoi dros
£7 miliwn tuag at wasanaethau plant ar draws Gogledd Cymru ac roedd
enghreifftiau o’r gwaith i’w gweld yn yr adroddiad. Roedd, hefyd, wedi
cyhoeddi Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad a Chynllun Ardal Rhanbarthol i
lunio'r gwaith ar draws Gogledd Cymru. Holodd yr Is-Gadeirydd a fu gwendid
ym mhroses bresennol y Bwrdd o ran rôl craffu'r gwahanol Awdurdodau Lleol.
Nododd fod yr Awdurdod hwn wedi sefydlu Panel Craffu Gwasanaethau
Cymdeithasol. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol gan ddweud mai
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru oedd y mwyaf o’r Byrddau
Partneriaeth yng Nghymru, gyda chwe Awdurdod Lleol, a'r Bwrdd Iechyd mwyaf
yng Nghymru, ond roedd yn derbyn fod lle i wella o ran y rôl Craffu.
Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at y Gwasanaethau Oedolion a dywedodd fod yr
Awdurdod hwn wedi sefydlu Tîm Adnoddau Cymunedol. Gofynnodd a oedd gan
Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru brosiect tebyg yn eu
hawdurdodau. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol trwy ddweud
fod gan yr Awdurdodau Lleol eraill, hefyd, brosiectau tebyg yn eu
hawdurdodau ac y câi arferion da eu rhannu rhwng y chwe Awdurdod Lleol yng
Ngogledd Cymru.
PENDERFYNWYD:-
·
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi deall y gwaith y
mae angen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud a’i gadw mewn cof.
·
Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith a’r cynnydd yn 2022/23 ar
y meysydd gwaith sy’n symud ymlaen drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru.
GWEITHRED: Trefnu Sesiwn Briffio i
Aelodau Etholedig ar amlinellu rôl a
phwrpas y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.