Rhaglen
Waith Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
2.6 Erthygl 6 – Sgriwtineiddio Penderfyniadau
2.6.1 Cyfansoddiad
Y nifer ar bob Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg a
elwir yn Bwyllgor Sgriwtini fydd y nifer honno a nodir isod yn 2.6.2.1. Penodir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor
Sgriwtini gan y Pwyllgor hwnnw, a byddant yn cael eu penodi yng nghyfarfod
cyntaf pob Pwyllgor ym mhob blwyddyn ddinesig ac, yn amodol ar yr isod, bydd y
penodiad hwnnw neu unrhyw benodiad pellach yn parhau am weddill y flwyddyn
ddinesig honno. Wrth ddyrannu Cadeiriau Pwyllgorau Sgriwtini, rhaid dilyn y tabl
‘Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini’ isod. Bydd
Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn aelod o’r wrthblaid fwyaf. Bydd
enwebiadau i unrhyw swydd ac i bob swydd a ddelir gan y gwrthbleidiau’n cael eu
gwneud gan y grwpiau unigol hynny a byddant yn cael eu cydnabod gan yr holl
aelodau ac ni fyddant yn cael eu dylanwadu gan grwpiau eraill neu aelodau
eraill.
Os bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Pwyllgor
Sgriwtini:
2.6.1.1 yn peidio â bod yn aelod o’r Cyngor
(neu’n aelod cyfetholedig efallai) am unrhyw reswm neu’n cael ei atal/hatal
rhag bod yn aelod, neu
2.6.1.2 yn aelod o grŵp gwleidyddol
penodol pan gaiff ei benodi yn Gadeirydd neu’n Is-Gadeirydd a bod y person
hwnnw wedyn yn peidio â bod yn aelod o’r grŵp gwleidyddol hwnnw, am unrhyw
reswm, yna daw swydd y person hwnnw fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar
unwaith,
bydd dyraniad y Cadeiriau Sgriwtini yn cael ei
ail-glandro yn unol â’r gofynion statudol a’r tabl sydd isod a bydd pob
Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn ei gyfarfod nesaf yn penodi Cadeirydd neu
Is-Gadeirydd newydd.
Bydd y rheolau mewn perthynas â chydbwysedd
gwleidyddol yn parhau i fod yn berthnasol ond ni fydd aelodau’r Pwyllgor Gwaith
yn gymwys i fod yn aelodau o Bwyllgor Sgriwtini.
Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini
D.S.
(1)
Mae’r tablau yn dangos cyfanswm nifer y cadeiriau gan yr holl grwpiau yn
y Pwyllgor Gwaith, a holl grwpiau’r gwrthbleidiau. Nid yw’n dangos nifer y cadeiriau sydd gan
bob grŵp unigol - oni bai nad oedd ond un grŵp yn y naill
gategori. Rhaid dyrannu cadeiriau rhwng
y grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith a rhwng grwpiau’r gwrthbleidiau yn gymesur â’u
cryfder.
(2) Mae
hwn yn cynnwys y mwyafrif o’r amgylchiadau y gellir eu rhagweld. Byddai rheolau dyrannu gwahanol yn berthnasol
:
- pe na
bai grwpiau gwleidyddol o fewn y Cyngor, neu dim ond un
- pe bai
dim ond dau grŵp, ac ond un pwyllgor; neu
- pe
bai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu rheolau eraill na fyddent yn llai
ffafriol i grwpiau’r gwrthbleidiau.
(2) Y
fformiwla a ddefnyddir ar gyfer grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith yw :
Nifer y Aelodau
mewn grwp(iau) yn y Pwyllgor Gwaith ÷ (cyfanswm nifer y Aelodau ÷ nifer
y pwyllgorau), gan rowndio’r canlyniad i lawr.
Ar gyfer grwpiau’r gwrthbleidiau, y fformiwla
wedyn yn syml fydd :
Nifer y pwyllgorau – nifer y cadeiriau gan
grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith.
2.6.2 Ansicrwydd Dyletswyddau
Pan fo unrhyw fater yn syrthio y tu mewn i
gylch gorchwyl rhagor nag un Pwyllgor Sgriwtini yna bydd y Prif Weithredwr, neu
Swyddog a benodir i weithredu ar ei ran / rhan, yn penderfynu pa Bwyllgor fydd
yn delio gyda’r mater(ion) a bydd yn cynnwys pŵer y ddau Bwyllgor
Sgriwtini i alw penderfyniadau i mewn.
2.6.2.1 Enwau, Maint a Chylch
Gorchwyl y Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd dau Bwyllgor Sgriwtini
• Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r
Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Penodir 10 Aelod o’r Cyngor Sir ar bob Pwyllgor
Sgriwtini.
Gwahoddir Rhiant Lywodraethwyr a chynrychiolwyr
yr Eglwys a benodwyd yn unol â Pharagraff 8 - 11 Atodlen 1 Deddf Llywodraeth
Leol 2000 i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Sgriwtini lle bydd swyddogaethau
addysg yr Awdurdod yn cael trafod a bydd ganddynt hawl i siarad a phleidleisio
ar y materion hynny’n unig.
Yn ychwanegol, fe all y Pwyllgor Sgriwtini
Partneriaeth ac Adfywio gyfethol unrhyw
berson ac eithrio Aelod o’r Pwyllgor Gwaith, yng nghyswllt ei swyddogaethau
trosedd ac anhrefn, yn amodol ar ddarpariaethau’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn
(Trosolwg a Sgriwtini) 2009 a’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a
Sgriwtini) (Diwygiad) 2010.
Gall y ddau Bwyllgor Sgriwtini argymell bod y
Cyngor yn penodi aelodau cyfetholedig ychwanegol heb hawliau pleidleisio i bob
Pwyllgor Sgriwtini.
2.6.2.2
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar roi
sicrwydd ynglŷn â pherfformiad /
darpariad yr holl wasanaethau,
sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei amcanion corfforaethol a’i amcanion
gwasanaeth (fel yr amlinellwyd yn ei Gynllun Busnes Corfforaethol , Cyllideb
Flynyddol, Fframwaith Cyllideb a Pholisi, Fframwaith Rheoli Perfformiad,
Polisïau Corfforaethol neu gynlluniau a
pholisïau sy’n eu holynu) ac i gefnogi a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant
parhaol.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a
wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei
swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a alwyd i mewn” neu
na weithredwyd arnynt i argymell i’r Pwyllgor Gwaith i ailystyried y penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a
wnaed neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt swyddogaethau nad ydynt yn
gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer hwn yn ymestyn i
waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu,
trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan
anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
2.6.2.3
Cylch Gorchwyl Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar
sicrhau bod buddiannau dinasyddion Ynys Môn yn cael eu hyrwyddo a bod
blaenoriaethau ac adnoddau’r Cyngor yn cael eu hadlewyrchu yn llesol yn y
partneriaethau, y cydweithio, y gweithio ar y cyd â threfniadau asiantaeth
allanol, fel fydd yn bodoli o bryd i’w gilydd.
Bydd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn ymestyn i drefniadau lleol,
rhanbarthol a chenedlaethol a bydd yn cynnwys (ond heb fod wedi ei gyfyngu i) y
meysydd lle mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol mewn materion trosedd ac
anhrefn.
• Materion yn ymwneud ag adfywio a’r cysyniad
“Ynys Fenter” (neu gynlluniau a pholisïau fydd yn eu holynu).
• Derbyn gwybodaeth a chyflwyniadau gan
asiantau sector cyhoeddus allanol (e.e. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Iechyd Cymuned Leol Betsi Cadwaladr) a
sgriwtineiddio eu gwaith ar yr Ynys.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a
wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei
swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a alwyd i mewn” neu
na weithredwyd arnynt i argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid ailystyried y
penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a
wnaed neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt swyddogaethau nad ydynt yn
gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer hwn yn ymestyn i
waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu,
trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan
anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
• Cyflawni swyddogaeth y Pwyllgor Trosedd ac
Anhrefn yn unol ag Adran 19 (1) Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 a Rheoliadau
Llywodraeth Cymru. Bydd Cylch Gorchwyl
penodol lle bo’r Pwyllgor hwn yn ystyried ymarfer pwerau yng nghyswllt trosedd
ac anhrefn yn cynnwys :
- adolygu a / neu sgriwtineiddio penderfyniadau
a wnaed neu gamau a gymerwyd yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni
eu swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
- gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor
ac /neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni eu
swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
-
ystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor unrhyw fater trosedd ac anhrefn
lleol a gyfeiriwyd i’r Pwyllgor gan aelod o’r Cyngor.
-
penderfynu a ddylid gwneud adroddiad neu argymhelliad i’r Cyngor ac /
neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol, gan roi
sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan yr aelod hwnnw ynglŷn â phaham y
dylai’r Pwyllgor wneud hynny.
-
hysbysu’r aelod penodol o’i benderfyniad a’r rhesymau am ei benderfyniad
mewn unrhyw achos lle bo’r Pwyllgor yn penderfynu peidio â gwneud adroddiad neu
argymhellion yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol.
- darparu
copi o unrhyw adroddiad neu argymhellion Pwyllgor i’r aelod penodol (yng
nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol) ac i unrhyw bersonau neu gyrff
cyfrifol a chydweithredol, fel y bo’n credu sy’n briodol.
-
adolygu ymatebion i adroddiadau ac argymhellion Pwyllgor a monitro’r
camau a gymerwyd gan bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol mewn
perthynas â chyflawni swyddogaethau trosedd ac anhrefn yr awdurdodau cyfrifol.
2.6.3 Swyddogaeth gyffredinol
O fewn eu cylch gorchwyl, bydd Pwyllgorau
Sgriwtini yn:
2.6.3.1 adolygu a/neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw
rai o swyddogaethau’r Cyngor;
2.6.3.2 cyflwyno adroddiadau a/neu argymhellion
i’r Cyngor llawn a / neu y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgor ar y Cyd neu
Bwyllgor Ardal mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaethau;
2.6.3.3 ystyried unrhyw fater sy’n effeithio ar
yr ardal neu ei thrigolion;
2.6.3.4 ymarfer yr hawl i alw i mewn, ar gyfer
ailystyried penderfyniadau a wnaed (o fewn ei gylch gorchwyl) ond nad ydynt eto
wedi eu gweithredu gan y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgorau Ardal; a
2.6.3.5 cynnal arolygon dan Gynllun Cymru ar
gyfer Gwella ar y swyddogaethau sydd y tu mewn i’w faes priodol a chyflwyno
adroddiadau ar y materion trwy’r Pwyllgor Gwaith i’r Cyngor.
2.6.4 Swyddogaethau penodol
2.6.4.1 Datblygu ac Adolygu Polisi.
Gall Pwyllgorau Sgriwtini wneud y canlynol:
2.6.4.1.1 cynorthwyo’r Cyngor a’r Pwyllgor
Gwaith i ddatblygu ei gyllideb a’i fframwaith polisi drwy ddadansoddiad manwl o
faterion polisi;
2.6.4.1.2 gwneud ymchwil, ymgynghori â’r
gymuned ac ymgynghori arall i ddadansoddi materion polisi a dewisiadau posibl;
2.6.4.1.3 ystyried a gweithredu mecanweithiau i
annog a gwella cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o ddatblygu dewisiadau polisi;
2.6.4.1.4 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu
bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu barn ar faterion ac argymhellion sy’n
effeithio ar yr ardal; a
2.6.4.1.5 cysylltu â chyrff allanol eraill sy’n
gweithredu yn yr ardal, boed y rhai hynny yn rhai cenedlaethol, rhanbarthol neu
leol, i hyrwyddo lles y bobl leol drwy weithio ar y cyd.
2.6.4.2 Sgriwtini
Gall Pwyllgorau Sgriwtini:
2.6.4.2.1 adolygu a sgriwtineiddio ar y
penderfyniadau a pherfformiad y Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a Swyddogion y
Cyngor mewn perthynas â phenderfyniadau unigol a thros gyfnod o amser;
2.6.4.2.2 adolygu sgriwtineiddio perfformiad y
Cyngor mewn perthynas â’i amcanion polisi, targedau perfformiad a/neu feysydd
gwasanaeth arbennig;
2.6.4.2.3 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu
Bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu penderfyniadau a’u perfformiad, p’run ai yn
gyffredinol o’i gymharu â chynlluniau gwasanaeth a thargedau dros gyfnod o
amser, neu mewn perthynas â phenderfyniadau, cynlluniau neu brosiectau
neilltuol;
2.6.4.2.4 gwneud argymhellion i’r Pwyllgor
Gwaith a/neu Bwyllgor priodol a/neu’r Cyngor yn deillio o ganlyniadau’r broses
sgriwtini;
2.6.4.2.5 adolygu sgriwtineiddio perfformiad
cyrff cyhoeddus eraill yn yr ardal a gwahodd adroddiadau oddi wrthynt drwy ofyn
iddynt annerch y Pwyllgor Sgriwtini a phobl leol i sôn am eu gweithgareddau a’u
perfformiad; a
2.6.4.2.6 holi a chasglu tystiolaeth oddi wrth
unrhyw berson arall (gyda’i ganiatâd).
2.6.4.3 Cyllid
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb
cyffredinol am y cyllid a glustnodwyd iddynt.
2.6.4.4 Adroddiad Blynyddol
Rhaid i Bwyllgorau Sgriwtini adrodd yn
flynyddol i’r Cyngor llawn ynglŷn â sut y maent yn gweithio a gwneud
argymhellion ar gyfer rhaglenni gwaith y dyfodol a newid dulliau o weithio os
yw hynny’n briodol.
2.6.4.5 Swyddogion
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb
cyffredinol am raglen waith y Swyddogion a gyflogir i gynnal eu gwaith.
2.6.5 Trafodion Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn cynnal eu
trafodion yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini a nodir yn Rhan 4.5 y
Cyfansoddiad hwn.
2.6.6 Cyswllt rhwng Pwyllgorau Sgriwtini
Gall Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y
Pwyllgorau Sgriwtini gyfarfod gyda’i gilydd fel Grŵp Llywio cyn amled ag y
bo’n briodol gyda golwg ar gydlynu rhaglenni gwaith a dulliau gweithio er mwyn
osgoi neu ostwng unrhyw ddyblygu neu orgyffwrdd yn eu gwaith.
2.6.7 Panelau
Gall y Pwyllgor Sgriwtini sefydlu Panelau o’i
Aelodau â diddordeb neu â sgiliau arbenigol mewn meysydd penodol er mwyn
cynorthwyo’r Pwyllgor i gyflawni ei waith.