·
Blaen Raglen Waith
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
2.6 Erthygl 6 – Sgriwtineiddio Penderfyniadau
2.6.1 Cyfansoddiad
Y nifer ar
bob Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg
a elwir yn Bwyllgor Sgriwtini fydd y nifer honno
a nodir isod yn 2.6.2.1. Penodir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini gan y Pwyllgor hwnnw, a byddant yn cael
eu penodi yng nghyfarfod cyntaf pob Pwyllgor ym mhob blwyddyn
ddinesig ac, yn amodol ar yr isod,
bydd y penodiad hwnnw neu unrhyw benodiad pellach yn parhau am weddill
y flwyddyn ddinesig honno. Wrth ddyrannu
Cadeiriau Pwyllgorau Sgriwtini,
rhaid dilyn y tabl ‘Dyrannu Cadeiriau
Sgriwtini’ isod. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn aelod o’r wrthblaid
fwyaf. Bydd enwebiadau i unrhyw swydd ac i bob swydd a ddelir gan y gwrthbleidiau’n
cael eu gwneud
gan y grwpiau unigol hynny a byddant yn cael
eu cydnabod gan yr holl aelodau
ac ni fyddant yn cael eu
dylanwadu gan grwpiau eraill neu aelodau eraill.
Os bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd
Pwyllgor Sgriwtini:
2.6.1.1 yn peidio
â bod yn aelod o’r Cyngor (neu’n
aelod cyfetholedig efallai) am unrhyw reswm neu’n cael
ei atal/hatal
rhag bod yn aelod, neu
2.6.1.2 yn aelod
o grŵp gwleidyddol penodol pan gaiff ei benodi yn
Gadeirydd neu’n Is-Gadeirydd a bod y person hwnnw wedyn yn peidio
â bod yn aelod o’r grŵp gwleidyddol
hwnnw, am unrhyw reswm, yna daw swydd y person hwnnw fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar unwaith,
bydd dyraniad
y Cadeiriau Sgriwtini yn cael ei
ail-glandro yn unol â’r gofynion
statudol a’r tabl sydd isod
a bydd pob Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn ei gyfarfod
nesaf yn penodi Cadeirydd neu Is-Gadeirydd newydd.
Bydd y rheolau
mewn perthynas â chydbwysedd gwleidyddol yn parhau i fod
yn berthnasol ond ni fydd
aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn
gymwys i fod yn aelodau o Bwyllgor
Sgriwtini.
Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini
D.S.
(1) Mae’r tablau yn
dangos cyfanswm nifer y cadeiriau gan yr holl grwpiau
yn y Pwyllgor Gwaith, a holl
grwpiau’r gwrthbleidiau. Nid yw’n dangos nifer
y cadeiriau sydd gan bob grŵp unigol - oni bai nad oedd ond un grŵp
yn y naill gategori. Rhaid dyrannu cadeiriau
rhwng y grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith a rhwng grwpiau’r gwrthbleidiau yn gymesur â’u
cryfder.
(2) Mae hwn yn cynnwys
y mwyafrif o’r amgylchiadau y gellir eu rhagweld. Byddai rheolau dyrannu gwahanol yn berthnasol
:
- pe na bai grwpiau gwleidyddol o fewn y Cyngor, neu dim ond un
- pe bai dim ond dau grŵp,
ac ond un pwyllgor; neu
- pe bai’r Cyngor yn
penderfynu mabwysiadu rheolau eraill na fyddent yn
llai ffafriol i grwpiau’r gwrthbleidiau.
(2) Y fformiwla a ddefnyddir ar gyfer grwpiau
yn y Pwyllgor Gwaith yw :
Nifer y Aelodau mewn grwp(iau) yn
y Pwyllgor Gwaith ÷ (cyfanswm nifer
y Aelodau ÷ nifer y pwyllgorau), gan rowndio’r canlyniad i lawr.
Ar gyfer
grwpiau’r gwrthbleidiau, y fformiwla wedyn yn syml fydd
:
Nifer y pwyllgorau
– nifer y cadeiriau gan grwpiau yn
y Pwyllgor Gwaith.
2.6.2 Ansicrwydd Dyletswyddau
Pan fo unrhyw
fater yn syrthio y tu mewn
i gylch gorchwyl rhagor nag un Pwyllgor Sgriwtini yna bydd y Prif
Weithredwr, neu Swyddog a benodir i weithredu ar ei ran / rhan,
yn penderfynu pa Bwyllgor fydd yn
delio gyda’r mater(ion) a bydd yn cynnwys
pŵer y ddau Bwyllgor Sgriwtini i alw penderfyniadau i mewn.
2.6.2.1 Enwau, Maint a Chylch Gorchwyl y Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd dau
Bwyllgor Sgriwtini
• Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Penodir 12 Aelod
o’r Cyngor Sir ar bob Pwyllgor Sgriwtini.
Gwahoddir Rhiant
Lywodraethwyr a chynrychiolwyr
yr Eglwys a benodwyd yn unol â Pharagraff 8 - 11 Atodlen 1 Deddf Llywodraeth Leol 2000 i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Sgriwtini lle bydd
swyddogaethau addysg yr Awdurdod yn cael
trafod a bydd ganddynt hawl i siarad a phleidleisio ar y materion hynny’n
unig.
Yn ychwanegol, fe
all y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth
ac Adfywio gyfethol unrhyw berson ac eithrio Aelod o’r Pwyllgor Gwaith, yng nghyswllt ei
swyddogaethau trosedd ac anhrefn, yn amodol
ar ddarpariaethau’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a Sgriwtini) 2009 a’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a Sgriwtini) (Diwygiad) 2010.
Gall y ddau Bwyllgor
Sgriwtini argymell bod y Cyngor yn penodi
aelodau cyfetholedig ychwanegol heb hawliau pleidleisio i bob
Pwyllgor Sgriwtini.
2.6.2.2 Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
• Bydd gwaith
y Pwyllgor yn canolbwyntio ar roi sicrwydd
ynglŷn â pherfformiad
/ darpariad yr
holl wasanaethau, sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni
ei amcanion corfforaethol a’i amcanion gwasanaeth (fel yr amlinellwyd yn ei Gynllun
Busnes Corfforaethol , Cyllideb Flynyddol, Fframwaith Cyllideb a Pholisi, Fframwaith Rheoli Perfformiad, Polisïau Corfforaethol neu gynlluniau a pholisïau sy’n eu holynu) ac i gefnogi a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaol.
• Adolygu neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed, neu
gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei
swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a alwyd
i mewn” neu na weithredwyd arnynt i argymell i’r Pwyllgor Gwaith
i ailystyried
y penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt
swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb
y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na
fydd y pŵer hwn yn ymestyn
i waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu, trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
2.6.2.3 Cylch Gorchwyl Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
• Bydd gwaith
y Pwyllgor yn canolbwyntio ar sicrhau bod buddiannau dinasyddion Ynys Môn yn cael eu
hyrwyddo a bod blaenoriaethau
ac adnoddau’r Cyngor yn cael eu
hadlewyrchu yn llesol yn y partneriaethau,
y cydweithio, y gweithio ar y cyd â threfniadau
asiantaeth allanol, fel fydd yn
bodoli o bryd i’w gilydd. Bydd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn ymestyn i drefniadau
lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a bydd yn cynnwys (ond
heb fod wedi
ei gyfyngu i) y meysydd lle mae
gan y Cyngor ddyletswydd statudol mewn materion trosedd
ac anhrefn.
• Materion yn
ymwneud ag adfywio a’r cysyniad “Ynys Fenter” (neu gynlluniau a pholisïau fydd yn eu holynu).
• Derbyn gwybodaeth
a chyflwyniadau gan asiantau sector cyhoeddus allanol (e.e. Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth
Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Iechyd Cymuned Leol Betsi Cadwaladr) a sgriwtineiddio eu gwaith ar yr Ynys.
• Adolygu neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed, neu
gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei
swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a alwyd
i mewn” neu na weithredwyd arnynt i argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid ailystyried y penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt
swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb
y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na
fydd y pŵer hwn yn ymestyn
i waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu, trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
• Cyflawni swyddogaeth
y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn
yn unol ag Adran 19 (1) Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 a Rheoliadau Llywodraeth
Cymru. Bydd Cylch Gorchwyl penodol lle bo’r
Pwyllgor hwn yn ystyried ymarfer pwerau yng nghyswllt
trosedd ac anhrefn yn cynnwys :
- adolygu a / neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd yng nghyswllt
yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni eu
swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
- gwneud adroddiadau
ac argymhellion i’r Cyngor ac /neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni eu
swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
- ystyried
mewn cyfarfod o’r Pwyllgor unrhyw fater trosedd ac anhrefn lleol a gyfeiriwyd i’r Pwyllgor gan aelod o’r
Cyngor.
- penderfynu
a ddylid gwneud adroddiad neu argymhelliad i’r Cyngor ac / neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol, gan roi sylw
i unrhyw sylwadau a wnaed gan yr aelod
hwnnw ynglŷn â phaham y dylai’r Pwyllgor wneud hynny.
- hysbysu’r
aelod penodol o’i benderfyniad a’r rhesymau am ei benderfyniad mewn unrhyw achos
lle bo’r Pwyllgor yn penderfynu peidio
â gwneud adroddiad neu argymhellion yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol.
- darparu
copi o unrhyw adroddiad neu argymhellion
Pwyllgor i’r aelod penodol (yng nghyswllt
mater trosedd ac anhrefn lleol) ac i unrhyw bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol, fel y bo’n credu
sy’n briodol.
- adolygu
ymatebion i adroddiadau ac argymhellion Pwyllgor a monitro’r
camau a gymerwyd gan bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau trosedd ac anhrefn yr awdurdodau cyfrifol.
2.6.3 Swyddogaeth gyffredinol
O fewn eu
cylch gorchwyl, bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn:
2.6.3.1 adolygu a/neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd mewn cysylltiad
â chyflawni unrhyw rai o swyddogaethau’r Cyngor;
2.6.3.2 cyflwyno adroddiadau a/neu argymhellion i’r Cyngor llawn
a / neu y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgor ar y Cyd
neu Bwyllgor Ardal mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaethau;
2.6.3.3 ystyried unrhyw fater sy’n
effeithio ar yr ardal neu ei thrigolion;
2.6.3.4 ymarfer yr hawl i alw i mewn,
ar gyfer ailystyried penderfyniadau a wnaed (o fewn ei
gylch gorchwyl) ond nad ydynt
eto wedi eu gweithredu gan
y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgorau
Ardal; a
2.6.3.5 cynnal arolygon
dan Gynllun Cymru ar gyfer Gwella ar
y swyddogaethau sydd y tu mewn i’w
faes priodol a chyflwyno adroddiadau ar y materion trwy’r
Pwyllgor Gwaith i’r Cyngor.
2.6.4 Swyddogaethau penodol
2.6.4.1 Datblygu ac Adolygu Polisi.
Gall Pwyllgorau Sgriwtini wneud y canlynol:
2.6.4.1.1 cynorthwyo’r Cyngor a’r Pwyllgor Gwaith i ddatblygu ei gyllideb
a’i fframwaith polisi drwy ddadansoddiad
manwl o faterion polisi;
2.6.4.1.2 gwneud ymchwil, ymgynghori â’r gymuned ac ymgynghori arall i ddadansoddi materion polisi a dewisiadau posibl;
2.6.4.1.3 ystyried a gweithredu mecanweithiau i annog a gwella cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o ddatblygu
dewisiadau polisi;
2.6.4.1.4 holi aelodau’r
Pwyllgor Gwaith a/neu bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu barn ar faterion
ac argymhellion sy’n effeithio ar yr ardal; a
2.6.4.1.5 cysylltu â chyrff allanol eraill sy’n gweithredu
yn yr ardal, boed y rhai hynny
yn rhai cenedlaethol,
rhanbarthol neu leol, i hyrwyddo lles y bobl leol drwy
weithio ar y cyd.
2.6.4.2 Sgriwtini
Gall Pwyllgorau Sgriwtini:
2.6.4.2.1 adolygu a sgriwtineiddio ar y penderfyniadau a pherfformiad y
Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a Swyddogion y Cyngor mewn perthynas â phenderfyniadau unigol a thros gyfnod o amser;
2.6.4.2.2 adolygu sgriwtineiddio perfformiad y Cyngor mewn perthynas
â’i amcanion polisi, targedau perfformiad a/neu feysydd gwasanaeth arbennig;
2.6.4.2.3 holi aelodau’r
Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu penderfyniadau a’u perfformiad, p’run ai yn gyffredinol
o’i gymharu â chynlluniau gwasanaeth a thargedau dros gyfnod o amser, neu mewn perthynas â phenderfyniadau, cynlluniau neu brosiectau neilltuol;
2.6.4.2.4 gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith
a/neu Bwyllgor priodol a/neu’r Cyngor yn
deillio o ganlyniadau’r
broses sgriwtini;
2.6.4.2.5 adolygu sgriwtineiddio perfformiad cyrff cyhoeddus eraill yn yr ardal
a gwahodd adroddiadau oddi wrthynt drwy
ofyn iddynt annerch y Pwyllgor Sgriwtini a phobl leol i sôn
am eu gweithgareddau a’u perfformiad; a
2.6.4.2.6 holi a chasglu tystiolaeth oddi wrth unrhyw
berson arall (gyda’i ganiatâd).
2.6.4.3 Cyllid
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb cyffredinol am y cyllid a glustnodwyd iddynt.
2.6.4.4 Adroddiad Blynyddol
Rhaid i Bwyllgorau
Sgriwtini adrodd yn flynyddol i’r
Cyngor llawn ynglŷn â sut y maent yn gweithio
a gwneud argymhellion ar gyfer rhaglenni
gwaith y dyfodol a newid dulliau o weithio os yw
hynny’n briodol.
2.6.4.5 Swyddogion
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb cyffredinol am raglen waith y Swyddogion a gyflogir i gynnal eu gwaith.
2.6.5 Trafodion Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn cynnal
eu trafodion yn unol â’r
Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini a nodir yn Rhan 4.5 y Cyfansoddiad
hwn.
2.6.6 Cyswllt rhwng Pwyllgorau Sgriwtini
Gall Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini
gyfarfod gyda’i gilydd fel Grŵp
Llywio cyn amled ag y bo’n briodol gyda golwg
ar gydlynu rhaglenni gwaith a dulliau gweithio er mwyn osgoi neu ostwng unrhyw ddyblygu
neu orgyffwrdd yn eu gwaith.
2.6.7 Panelau
Gall y Pwyllgor Sgriwtini sefydlu Panelau o’i Aelodau â diddordeb
neu â sgiliau arbenigol mewn meysydd penodol
er mwyn cynorthwyo’r
Pwyllgor i gyflawni ei waith.