Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd Mr Trefor Owen yn Gadeirydd a croesawyd pawb i’r cyfarfod. |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
|
Cadarnhau cofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 14 Medi 2026. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod o’r Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 14 Medi 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Cais am Ganiatâd Arbennig Ystyried cais am ganiatâd arbennig gan Gynghorydd Sir. Cofnodion: Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Douglas Fowlie wedi gwneud cais am ganiatâd arbennig (Atodiad 1 i’r adroddiad). Nododd fod y cais yn cynnwys gwybodaeth o natur bersonol a sut y bydd y penderfyniad yn newid y diddordeb i fod yn un sy’n rhagfarnu. Eglurodd y math o ganiatâd arbennig y gwneir cais amdano a rhoddodd drosolwg o’r cefndir statudol perthnasol lle gallai’r Pwyllgor Safonau roi caniatâd arbennig.
Nodwyd fod y Cyngor Sir wedi cynnal ymgynghoriad ar gynnig i fabwysiadu ardoll ymwelwyr, yn unol â Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025.
Mae’r Cynghorydd Douglas Fowlie wedi gwneud cais am ganiatâd arbennig gan fod ganddo aelod agos o’r teulu sy’n gweithredu busnes llety gwyliau a allai gael ei effeithio arno gan y penderfyniad ar yr Ardoll Ymwelwyr. Mae gan yr Ymgeisydd wybodaeth arbenigol o fod yn berchen ar fusnes lletygarwch na fyddai’n cael ei effeithio arno petai’r Ardoll Ymwelwyr yn cael ei fabwysiadu.
Mae’r Cynghorydd Fowlie yn dymuno gallu ysgrifennu ar swyddogion ac aelodau a siarad â Swyddogion am yr Ardoll Ymwelwyr. Mae o hefyd yn dymuno cymryd rhan mewn cyfarfodydd neu drafodaethau yn y dyfodol mewn perthynas â’r mater a phleidleisio.
Ar ôl gwrando ar gefndir y cais am ganiatâd arbennig gan yr Ymgeisydd, cynhaliodd y Panel sesiwn breifat er mwyn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd arbennig ai peidio, ac os byddai caniatâd arbennig yn cael ei roi, ystyried (i) ar ba sail neu seiliau y rhoddir y caniatâd arbennig ac (ii) a oes angen gosod unrhyw gyfyngiadau.
Ar ôl dychwelyd i’r sesiwn gyhoeddus, dywedodd y Cadeirydd fod y panel wedi ystyried a chytuno fod diddordeb yr Ymgeisydd yn un sy’n rhagfarnu.
PENDERFYNWYD rhoi caniatâd arbennig i’r Cynghorydd Douglas Fowlie mewn perthynas â’r diddordeb y cyfeiriwyd ato yn y cais ac ar y sail statudol a nodwyd ym Mharagraffau 2(d) a 2(f) yn y cais.
Mae’r caniatâd arbennig yn rhoi hawl i’r Cynghorydd: -
• ysgrifennu at swyddogion ac aelodau am y mater; • siarad â swyddogion am y mater, ar yr amod bod nodyn yn cael ei wneud o unrhyw drafodaethau o’r fath; • siarad ym mhob cyfarfod am y mater, ond nid pleidleisio.
Cyfyngiadau:
Bydd y caniatâd arbennig yn dod i ben ar ddiwedd y tymor presennol ar gyfer aelodau etholedig y Cyngor Sir (ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad llywodraeth leol nesaf).
Gweithredoedd:
• Rhaid i’r Cynghorydd Fowlie ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu wrth Fynychu cyfarfodydd y Cyngor Sir a phob cyfarfod perthnasol arall. • Y Swyddog Monitro a’r Cadeirydd i benderfynu ar eiriad yr Hysbysiad o Benderfyniad. • Y Cadeirydd i ysgrifennu at y Cynghorydd Fowlie i gadarnhau bod y Panel Caniatâd Arbennig wedi rhoi’r caniatâd arbennig. • Anfon copi o’r Hysbysiad o Benderfyniad at y Cynghorydd Fowlie a’r Gwasanaethau Democrataidd. |