Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Douglas M Fowlie ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus yn gysylltiedig ag Eitem 4 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Fe wnaeth y Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus yn gysylltiedig ag Eitem 4 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Fe wnaeth y Cynghorydd Alun Roberts ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 4 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr ond ar ôl derbyn caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau roedd yn cael cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2026. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2026 yn gywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Craffu ar Bartneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru
• Bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am y sefydliad sy’n gyfrifol am reoleiddio dŵr yfed yn ogystal ag eglurhad ynglŷn â’r broses ar gyfer ystyried effaith datblygiadau arfaethedig ar yr Ynys ar ddŵr yfed.
Derbyniodd yr Aelodau Etholedig e-bost gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar 10 Awst, 2026.
• Bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu dolen ar-lein y gall Aelodau ei rhannu ag etholwyr, sy’n amlinellu sut y gallant gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Rhannwyd yr wybodaeth ag Aelodau’r Pwyllgor ar 10 Awst, 2026.
Cynllun Strategol Taclo Tlodi
Gofyn i sefydliadau trydydd sector gwblhau asesiad effaith a defnyddio’r canfyddiadau i ysgrifennu llythyr ar y cyd ar ran y Pwyllgor at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, er mwyn tynnu sylw at effaith sylweddol rôl arfaethedig y Cydbwyllgor Corfforedig mewn perthynas â Chyllid y Gronfa Twf Lleol ar Ynys Môn, a dadlau dros ddychwelyd at fodel y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) (70% refeniw, 30% cyfalaf) i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau.
Ar y gweill
|
|
|
Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo bod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod llawn ar 12 Mai, 2026 wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru). Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 15 Mai, 2026 a 13 Gorffennaf, 2026 drwy broses ar-lein a 6 sesiwn wyneb yn wyneb. Cynhaliwyd un sesiwn yn benodol ar gyfer y sector busnes ar y cyd ag Awdurdod Cyllid Cymru yn Llangefni ar 22 Mehefin 2026. Derbyniodd y Cyngor 2,098 ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein ac yn ystod y sesiynau wyneb yn wyneb. Mae gwrthwynebiad cryf i’r Ardoll Ymwelwyr, gyda 70.8% o’r holl ymatebwyr yn gwrthwynebu neu’n dueddol o wrthwynebu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr, tra bo 25.1% yn cefnogi, neu’n dueddol o gefnogi. Aeth ymlaen i ddweud bod gwendidau amlwg yn y ddeddfwriaeth wedi cael eu hamlygu a bod y gwendidau hynny’n ymwneud yn bennaf â gweinyddu a chasglu’r ardoll a’r ffaith y byddai’n rhaid i blant ifanc dalu’r ardoll. Dywedodd yr Aelod Portffolio mai’r argymhelliad yw peidio â chefnogi cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr gan fod rhaid cefnogi’r diwydiant twristiaeth ar yr Ynys.
Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-
• Holwyd ynglŷn â’r weithdrefn ar gyfer ymateb i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r pryderon yn gysylltiedig â’r anghysondebau rhwng lefel yr ardoll y byddai pobl sy’n aros mewn carafanau a gwestai yn ei dalu. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yr anghysondebau’n ymwneud â’r modd y byddai’r ardoll yn cael ei chasglu wedi cael eu hamlygu yn ystod y broses ymgynghori. Nododd mai’r argymhelliad yw bod y Prif Weithredwr, ar y cyd â’r Arweinydd, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am adolygiad o’r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar ar Ynys Môn. Pwysleisiodd bod barn y bobl ar yr Ardoll Ymwelwyr yn hanfodol bwysig a’i bod hi’n amlwg, yn dilyn y broses ymgynghori, bod gwrthwynebiad chwyrn i’r ardoll a bod angen newid deddfwriaethol i sicrhau proses deg oherwydd demograffig a natur Ynys Môn gan fod twristiaeth yn bwysig i’r Ynys. Dywedodd y byddai’n haws gweinyddu’r ardoll mewn ardaloedd trefol. • Holwyd ynglŷn ag effaith yr ardoll ar fusnesau a sut y byddai unrhyw incwm yn cael ei ddyrannu. Eglurodd yr Aelod Portffolio nad yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu ystyried incwm yn deillio o’r ardoll fel rhan o’r broses ymgynghori. Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Pwyllgor Gwaith yn ymateb i anghenion busnesau twristiaeth bach a chanolig, sy’n ganolog i economi leol Ynys Môn. Ychwanegodd bod y ddeddfwriaeth bresennol yn achosi heriau ar gyfer y sector a phwysleisiodd bod rhaid cefnogi twristiaeth gynaliadwy. • Nodwyd bod y Pwyllgor yn cytuno gyda’r argymhelliad bod y Prif Weithredwr, ar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Casglu Gwastraff ac Ail-gylchu Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Masnachfreinio Bysiau - Llwybrau Bysiau Arfaethedig Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: |