Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel a nodwyd uchod. |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Sonia Williams ddatgan budd personol a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 5 – Cynllun Strategol Trechu Tlodi gan ei bod yn Aelod o'r Bwrdd Trechu Tlodi. Gadawodd y Cynghorydd Williams y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan budd personol yn Eitem 4 - Craffu ar Bartneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru gan ei fod yn Aelod o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2026.
YN CODI
Diweddariad ar wireddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ynys Môn 2022/2026
· Llythyr wedi ei anfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Adam Price AS; · Ymateb wedi ei dderbyn gan Mr Adam Price AS; · Llythyr wedi ei anfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Steve Reed AS; · Ymateb wedi ei dderbyn ar ran Mr Steve Reed AS.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2026 yn gywir.
MATERION YN CODI
Diweddariad ar weithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ynys Môn 2022/2026
Atodwyd yr ohebiaeth ganlynol at Raglen y Pwyllgor er gwybodaeth:-
• Gohebiaeth wedi’i hanfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Adam Price AS; • Ymateb wedi’i dderbyn gan Mr Adam Price AS; • Gohebiaeth wedi’i hanfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Steve Reed AS; • Ymateb wedi’i dderbyn ar ran Mr Steve Reed AS.
Dywedodd yr Is-gadeirydd fod datganiad wedi'i wneud bod cyllid grant y DU yn ystyried dyfarnu'r grantiau i'w gweinyddu gan awdurdodau lleol yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Holodd a fydd y cyllid yn cael ei ddyfarnu i'r cyrff sefydledig h.y. y Cydbwyllgorau Corfforedig (CBCau). Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr nad oedd yn gallu cadarnhau sut y bydd y cyllid yn cael ei ddyfarnu ar hyn o bryd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd cyllid y Gronfa Twf Lleol yn cael ei ddyfarnu i awdurdodau lleol yn y flwyddyn gyntaf. Cyfeiriodd at yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU sy’n nodi eu bod o'r farn bod cyllid grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Twf Lleol yn ddwy ffordd wahanol o ariannu. Dywedodd ymhellach fod y llywodraeth flaenorol yn y Senedd wedi dweud bod cyllid yr ail a'r drydedd flwyddyn i'w ddyfarnu i'r CBCau rhanbarthol. Mae CBC Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Mr Adam Price AS i weld a yw'r cyllid i'w ddyfarnu i'r cyrff rhanbarthol neu i'r Awdurdodau Lleol. Nododd eu bod yn disgwyl ymateb gan Weinidog y Cabinet.
|
|
|
Craffu Partneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru
Derbyn cyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Sian Williams – Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru i'r cyfarfod.
Rhoddodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru gyflwyniad llafar i'r cyfarfod a thynnodd sylw at uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru drwy eu Cynllun Corfforaethol, sef cefnogi adferiad natur, datblygu gwytnwch i newid hinsawdd mewn cymunedau a lleihau llygredd ac atal niwed i'r amgylchedd. Tynnodd sylw at rôl a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff rheoleiddio sy'n cynghori ac yn rheoleiddio'r dull o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a sicrhau canlyniadau llesiant. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddiwr ar y diwydiant dŵr. Adroddwyd manylion y prosiectau strategol ar Ynys Môn i'r Pwyllgor ac yn benodol datblygiad Wylfa - Gwyndod, y Porthladd Rhydd, Coedwig Niwbwrch a Llanddwyn. Tynnwyd sylw at wybodaeth bellach ynglŷn â sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i risgiau Newid yn yr Hinsawdd yn sgil tonnau gwres a sychder, ffermio a chynhyrchu bwyd, peryglon llifogydd ac erydiad, adeiladu a chynnal a chadw amddiffynfeydd. Tynnodd sylw ymhellach at y gwaith a wnaed gyda chymunedau lleol a'r Awdurdod Lleol ynglŷn â materion traffig drwy bentref Niwbwrch ac mae trafodaethau'n parhau ynglŷn â'r problemau parcio i rai sy’n ymweld â Llanddwyn. Cyfeiriodd ymhellach at yr angen i gau Coedwig Niwbwrch dros y penwythnos oherwydd risgiau tân posibl.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-
• Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r cynlluniau sydd yn eu lle i ddelio â’r risgiau posibl o danau gwyllt, yn enwedig yng Nghoedwig Niwbwrch a Llanddwyn, ac a yw'r cynlluniau hyn wedi'u rhannu gyda'r Awdurdod Lleol a chyrff eraill sy’n bartneriaid. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod cynlluniau argyfwng yn eu lle, a bod trafodaethau dyddiol yn cael eu cynnal, yn enwedig yn ystod y don wres, ynglŷn â'r risgiau posibl o danau gwyllt, fel sy'n digwydd ym Mwlch Sychnant. Mae mapiau gwagio yn cael eu rhannu gyda'r Gwasanaethau Brys a'r Awdurdod Lleol os oes angen i bobl adael safleoedd. • Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r pwerau rheoleiddio sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru dros Ddŵr Cymru ac yn enwedig achosion yn ymwneud â charthffosiaeth. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru mai Ofwat yw'r rheoleiddiwr statudol a’u bod yn ddiweddar wedi cynnig pecyn gorfodi gwerth £44.7m yn dilyn ei ganfyddiadau bod Dŵr Cymru wedi torri ei rwymedigaethau cyfreithiol wrth weithredu ei waith trin dŵr gwastraff a'i rwydwaith. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gorfodi Dŵr Cymru i roi systemau monitro ar waith dros y blynyddoedd diwethaf. Nododd, os oes ardaloedd sy'n cael effaith ar yr amgylchedd, yna gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio pwerau gorfodi i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau statudol. • Gofynnwyd p’un ai a oedd cyfleusterau parcio ar ochr Malltraeth wedi cael eu hystyried i ysgafnhau’r pwysau ar y rhwydwaith priffyrdd tuag at Draeth Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod cyfleusterau parcio ar ochr Malltraeth wedi cael ei grybwyll yn ystod sesiynau galw heibio yng nghymuned Niwbwrch. Nododd fod gan bob opsiwn ei fanteision/anfanteision a bod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Cynllun Strategol Taclo Tlodi Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2026/2027 Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Dogfennau ychwanegol: |