Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 13eg Hydref, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Penderfyniad:

Fe wnaeth y Cynghorydd Dylan Rees ddatgan buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 4 - Craffu ar Bartneriaeth Strategol - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gan mai ef yw Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Cadarnhaodd ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol a’i fod yn cael cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·     Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi, 2026

·     Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2026

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir:-

 

•           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2026

 

•           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2026  

4.

Craffu Partneriaethau Strategol - Tân ac Achub Gogledd Cymru pdf eicon PDF 4 MB

Derbyn cyflwyniad gan Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad gan gynrychiolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

5.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn: 2025/26 pdf eicon PDF 230 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn : 2025/2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

•           nodi cynnwys yr adroddiad a’r dogfennau atodol a chefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith. 

 

•                     gwahodd y Gwasanaeth Prawf i’r cyfarfod pan bydd y Pwyllgor yn trafod Partneriaeth Diogelwch Cymunedol.  

 

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor 2026/2027 pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD:-

 

•                     Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2026/27;

•                     Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen   waith.