Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 15fed Medi, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Douglas M Fowlie ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus yn gysylltiedig ag Eitem 4 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd John Ifan Jones  ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus yn gysylltiedig ag Eitem 4 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais. 

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Alun Roberts ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 4 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr ond ar ôl derbyn caniatâd  arbennig gan y Pwyllgor Safonau roedd yn cael cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor. 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 245 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2026.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2026 yn gywir.

 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

 

Craffu ar Bartneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru

 

•      Bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am y sefydliad sy’n gyfrifol am reoleiddio dŵr yfed yn ogystal ag eglurhad ynglŷn â’r broses ar gyfer ystyried effaith datblygiadau arfaethedig ar yr Ynys ar ddŵr yfed. 

 

Derbyniodd yr Aelodau Etholedig e-bost gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar 10 Awst, 2026.

 

•      Bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu dolen ar-lein y gall Aelodau ei rhannu ag etholwyr, sy’n amlinellu sut y gallant gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

Rhannwyd yr wybodaeth ag Aelodau’r Pwyllgor ar 10 Awst, 2026.

 

 

 

 

Cynllun Strategol Taclo Tlodi

 

Gofyn i sefydliadau trydydd sector gwblhau asesiad effaith a defnyddio’r canfyddiadau i ysgrifennu llythyr ar y cyd ar ran y Pwyllgor at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, er mwyn tynnu sylw at effaith sylweddol rôl arfaethedig y Cydbwyllgor Corfforedig mewn perthynas â Chyllid y Gronfa Twf Lleol ar Ynys Môn, a dadlau dros ddychwelyd at fodel y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) (70% refeniw, 30% cyfalaf) i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau.  

 

Ar y gweill

 

 

4.

Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr pdf eicon PDF 273 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo bod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod llawn ar 12 Mai, 2026 wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 15 Mai, 2026 a 13 Gorffennaf, 2026 drwy broses ar-lein a 6 sesiwn wyneb yn wyneb.   Cynhaliwyd un sesiwn yn benodol ar gyfer y sector busnes ar y cyd ag Awdurdod Cyllid Cymru yn Llangefni ar 22 Mehefin 2026.  Derbyniodd y Cyngor 2,098 ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein ac yn ystod y sesiynau wyneb yn wyneb.  Mae gwrthwynebiad cryf i’r Ardoll Ymwelwyr, gyda 70.8% o’r holl ymatebwyr yn gwrthwynebu neu’n dueddol o wrthwynebu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr, tra bo 25.1% yn cefnogi, neu’n dueddol o gefnogi.  Aeth ymlaen i ddweud bod gwendidau amlwg yn y ddeddfwriaeth wedi cael eu hamlygu a bod y gwendidau hynny’n ymwneud yn bennaf â gweinyddu a chasglu’r ardoll a’r ffaith y byddai’n rhaid i blant ifanc dalu’r ardoll.  Dywedodd yr Aelod Portffolio mai’r argymhelliad yw peidio â chefnogi cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr gan fod rhaid cefnogi’r diwydiant twristiaeth ar yr Ynys.  

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol:-

 

•           Holwyd ynglŷn â’r weithdrefn ar gyfer ymateb i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r pryderon yn gysylltiedig â’r anghysondebau rhwng lefel yr ardoll y byddai pobl sy’n aros mewn carafanau a gwestai yn ei dalu.  Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yr anghysondebau’n ymwneud â’r modd y byddai’r ardoll yn cael ei chasglu wedi cael eu hamlygu yn ystod y broses ymgynghori.   Nododd mai’r argymhelliad yw bod y Prif Weithredwr, ar y cyd â’r Arweinydd, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am adolygiad o’r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar ar Ynys Môn.   Pwysleisiodd bod barn y bobl ar yr Ardoll Ymwelwyr yn hanfodol bwysig a’i bod hi’n amlwg, yn dilyn y broses ymgynghori, bod gwrthwynebiad chwyrn i’r ardoll a bod angen newid deddfwriaethol i sicrhau proses deg oherwydd demograffig a natur Ynys Môn gan fod twristiaeth yn bwysig i’r Ynys.   Dywedodd y byddai’n haws gweinyddu’r ardoll mewn ardaloedd trefol.

•           Holwyd ynglŷn ag effaith yr ardoll ar fusnesau a sut y byddai unrhyw incwm yn cael ei ddyrannu.  Eglurodd yr Aelod Portffolio nad yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu ystyried incwm yn deillio o’r ardoll fel rhan o’r broses ymgynghori. Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y Pwyllgor Gwaith yn ymateb i anghenion busnesau twristiaeth bach a chanolig, sy’n ganolog i economi leol Ynys Môn.  Ychwanegodd bod y ddeddfwriaeth bresennol yn achosi heriau ar gyfer y sector a phwysleisiodd bod rhaid cefnogi twristiaeth gynaliadwy.

•           Nodwyd bod y Pwyllgor yn cytuno gyda’r argymhelliad bod y Prif Weithredwr, ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Casglu Gwastraff ac Ail-gylchu pdf eicon PDF 276 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

6.

Masnachfreinio Bysiau - Llwybrau Bysiau Arfaethedig pdf eicon PDF 174 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol: