Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Llun, 28ain Medi, 2026 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Craffu Partneriaethau Strategol: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pdf eicon PDF 441 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Dyfed Edwards - Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mr Paul Andrew - Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gofal integredig (y Gorllewin) a Mr Tom Regan - Tîm Iechyd Meddwl i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd Mr Paul Andrew a Mr Tom Regan gyflwyniad byr i’r Pwyllgor ar y bartneriaeth gadarn sy’n bodoli rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod. Nodwyd bod y naill sefydliad yn canolbwyntio ar wella iechyd, annibyniaeth a lles trigolion Ynys Môn.

Roedd Mr Jim Lee, Cadeirydd y Nifty60’s wedi gofyn i gael bod yn bresennol. Dywedodd bod y Nifty60’s wedi cael ei sefydlu yn 2019. Mae gan y Nifty60’s bron i 900 o aelodau cofrestredig erbyn hyn ac mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant ymwrthiant a gweithredol.  Nod y Nifty60’s yw lleihau’r risg o lithro a baglu ymhlith pobl hŷn a lleihau’r pwysau ar feddygfeydd ac adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd.    Rhoddodd flas o’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn y 13 lleoliad ledled yr Ynys.   Cyfarfu cynrychiolwyr y Nifty60’s ag Ellen Williams, Rheolwr Clwstwr Ardal y Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i drafod Atal Gofal Sylfaenol a’r posibilrwydd o gwrdd â Hwb Clystyrau Meddygon Teulu Ynys Môn i roi cyflwyniad iddynt yn y gobaith o sicrhau cyllid i ariannu’r Nifty60’s.   Ym mis Medi 2025 rhoddwyd dau gyflwyniad i’r Hwb Clystyrau Meddygon Teulu ym Menllech ac roedd yr adborth yn gadarnhaol ac o blaid darparu cyllid ar gyfer y Nifty60’s.  Trafodwyd ffigwr cychwynnol o £400k ac yn dilyn cyfarfod pellach roedd y swm yma wedi gostwng i tua £200k.   Byddai hyn wedi golygu newid cynllun y Nifty60’s drwy leihau nifer yr hyfforddwyr a pheidio â chael rheolwr.  Yn dilyn cyfarfodydd pellach gyda’r bwrdd Iechyd nid oes arwydd bod modd dod o hyd i ddatrysiad i ariannu’r Nifty60’s.   Yn ystod y cyfarfodydd hyn awgrymodd y Nifty60’s y gallai’r Bwrdd Iechyd sefydlu Cytundeb Lefel Gwasanaeth i drosglwyddo’r arian i’r Awdurdod Lleol, a bod y Nifty60’s wedyn yn ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Awdurdod Lleol a fyddai’n craffu ar y gwaith ac yn derbyn adroddiadau chwarterol i sicrhau tryloywder.   Aeth ymlaen i ddweud bod tua 450 o athletwyr, ar gyfartaledd, yn mynychu’r dosbarthiadau bob wythnos mewn 13 lleoliad a’i bod hi’n bosib bod tua 1,000 o bobl hŷn yn hyfforddi ar Ynys Môn bob wythnos.  Ar ôl yr addewid cychwynnol y byddai cyllid ar gael mae’r Nifty60’s bellach yn gorfod dweud wrth bobl ar y rhestr aros nad oes lle ar gael ar hyn o bryd oherwydd diffyg cyllid. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymweld â’r Nifty60’s ac mae o’r farn y dylai’r Bwrdd Iechyd ariannu’r Nifty60’s.   Roedd o’r farn y dylid defnyddio Ynys Môn fel peilot ar gyfer gweddill Cymru. Aeth Mr Lee ymlaen i ddweud ei fod wedi rhoi cyflwyniad, ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2026/2027 pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Sgriwtini, oedd yn amlinellu Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2026/2027, i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD:-

 

• Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r blaen rhaglen waith ar gyfer 2026/2027;

• Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.