Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r cyfarfod. Cofnodion: Penodwyd Mr Rhys Davies fel Cadeirydd y cyfarfod. |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddataganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Bu’r Cynghorydd Alun Roberts ddatgan diddordeb personol yn y cyfarfod gan mai ef yw’r Ymgeisydd sy’n gofyn am ganiatâd arbennig.
Bu i Mr David Davies ddatgan diddordeb personol am ei fod yn berchen ar gartref modur ac yn ymweld ag Ynys Môn o bryd i’w gilydd ac yn aros mewn gwersyllfaoedd achrededig. |
|
|
Cadarnhau cofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2026. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
|
Cais am Ganiatâd Arbennig Ystyried cais am ganiatâd arbennig gan Gynghorydd Sir. Cofnodion: Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Alun Roberts wedi gwneud cais am ganiatâd arbennig (Atodiad 1 i’r adroddiad). Nododd fod y cais yn cynnwys gwybodaeth am y natur, math o ganiatâd arbennig y gofynnir amdano ac ar ba sail y gofynnir am ganiatâd arbennig. Rhoddodd drosolwg o’r materion statudol perthnasol.
Nodwyd fod y Cyngor Sir wedi cynnal ymgynghoriad ar y cynnig i fabwysiadu ardoll ymwelwyr a’i peidio, yn unol â Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025.
Mae’r Cynghorydd Alun Roberts wedi gwneud cais am ganiatâd arbennig er mwyn gallu cymryd rhan llawn mewn cyfarfodydd neu drafodaethau mewn perthynas a’r ardoll ac er mwyn gallu ysgrifennu at swyddogion ac aelodau mewn perthynas â’r mater. Mae’n dymuno aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/pleidlais ar y mater ac yn dymuno gallu pleidleisio mewn cyfarfodydd o’r fath.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Roberts i siarad o blaid ei gais.
Adroddodd y Cynghorydd Roberts fod ei bartner yn cael ei gyflogi fel derbynnydd rhan-amser ac yn gweithio dau fore’r wythnos mewn gwesty lleol. Eglurodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo a’i fod yn dymuno bod yn dryloyw am unrhyw benderfyniadau y bydd yn rhan ohonynt mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr drwy ddatgan diddordeb mewn cyfarfodydd.
Cafodd aelodau’r Panel gyfle i holi’r Cynghorydd Roberts am ei rôl fel aelod etholedig ac Aelod Portffolio ac am wahanol agweddau o waith ei bartner ac effaith posibl yr ardoll ymwelwyr.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts mai cael ei gyflogi mae ei bartner ac nad yw’n ymwneud ag unrhyw benderfyniadau cysylltiedig â’r gwsety. Petai’r ardoll yn cael ei fabwysiadu, mae’n annhebygol y byddai hynny’n cael unrhyw effaith ar ei bartner. Cadarnhaodd y Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol y byddai mabwysiadu unrhyw ardoll yn berthnasol ar y gyfradd uwch i’r rhai sy’n aros mewn gwesty.
Mewn ymateb i gwestiwn er mwyn deall rôl y Cynghorydd Roberts fel Aelod Portffolio, ymatebodd y Cynghorydd Roberts y bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor ond na fydd y penderfyniad i dderbyn neu wrthod yr ardoll yn un personol iddo ef ond y bydd yn cael ei benderfynu gan y Cyngor llawn.
Adroddodd Rheolwr Economi Ymwelwyr ac Ardaloedd Arfordirol bod dros 2,000 o ymatebion bellach wedi eu derbyn mewn ymateb i’r ymgynghoriad ardoll ymwelwyr a bod y cyfnod ymateb bellach wedi dod i ben. Bydd adroddiad ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Sir ym mis Medi ar gyfer gallu gwneud penderfyniad.
Ar ôl clywed cefndir y cais am ganiatâd arbennig gan yr Ymgeisydd, cynhaliodd y Panel sesiwn breifat er mwyn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd arbennig ai peidio, ac os byddai caniatâd arbennig yn cael ei roi, ystyried (i) ar ba sail neu seiliau y rhoddir y caniatâd arbennig ac (ii) a oes angen gosod unrhyw ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |