Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2026 yn gywir.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref 2026 a Mai 2027 gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.
|
|
|
Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 1, 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cytuno i dderbyn adroddiad y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1 2026/27 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth a gwasanaethau perthnasol yn eu harchwilio er mwyn sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â’r Iaith Gymraeg (ymatebion i ymgynghoriadau); Gofal Cymdeithasol a Llesiant (ymholiadau amddiffyn oedolion a gwblhawyd o fewn yr amserlen); Tai (ailosod eiddo gwag); Economi (archwilio busnesau bwyd risg uchel); Newid Hinsawdd (cyfraddau ailgylchu gwastraff domestig) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen a lefelau absenoldeb salwch).
|
|
|
Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) Blynyddol Drafft 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd mabwysiadu’r Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) drafft 2025/26 fel “drafft gweithredol” a gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ystyried ei gynnwys ymhellach yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2026.
|
|
|
Monitro Cyllideb Refeniw – Chwarter 1, 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r canlynol -
· Y sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yn yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2026/27. · Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2026/27, y manylir arnynt yn Atodiad CH. · Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2026/27 yn Atodiadau D a DD. · Nodi canlyniadau monitro gwariant y Gronfa Costau Newid ar gyfer 2026/27 yn Atodiad E.
|
|
|
Monitro Cyllideb Gyfalaf – Chwarter 1, 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd -
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2026/27 yn ystod Chwarter 1. · Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.438m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf, a newidiadau cyllido, yn unol ag Atodiad C yn yr adroddiad, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £72.127m ar gyfer 2026/27.
|
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 1, 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r canlynol -
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2026/27. · Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2026/27.
|
|
|
Adolygiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2025/26 ac argymell bod y Cyngor llawn yn ei gymeradwyo yn ei gyfarfod ar 24 Medi 2026.
|
|
|
Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2027/28 - 2029/30 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2027/28 - 2029/30 a chymeradwyo’r rhagdybiaethau sydd wedi’u cynnwys ynddo. |
|
|
Penderfyniad ar gyflwyno Ardoll Ymwelwyr posibl yn Ynys Môn Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r argymhellion canlynol - · Nad yw’r Cyngor yn mabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr o ystyried yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r asesiadau effaith. · Bydd y Cyngor yn monitro, adolygu ac yn ystyried tystiolaeth effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a ddewisodd fabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol. · Bydd y Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â'r Arweinydd, yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o'r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y broses ymgynghori ddiweddar. Dylid rhannu llythyr o'r fath at Lywodraeth Cymru gyda’r holl aelodau etholedig.
|
|
|
Newid i gasgliadau ailgylchu a gwastraff Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r argymhellion canlynol - • Parhau i gasglu gwastraff gweddilliol unwaith bob 3 wythnos o 2029, ond drwy gasglu biniau du 180 litr newydd yn hytrach na’r biniau 240 litr presennol. • Creu mwy o ofod ar gyfer ailgylchu cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl drwy:
• Gasglu cardfwrdd a phapur gyda'i gilydd ym mocs top y troli ailgylchu. • Cynnig opsiynau storio ychwanegol ar gyfer ailgylchu cardfwrdd a/neu blastig caled a chaniau ychwanegol. • Cyflwyno ymgyrch i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ailgylchu ac ailddefnyddio. • Cynnal ymchwil i ymestyn y deunydd sy’n cael ei gasglu i’w ailgylchu i gynnwys plastig meddal a deunyddiau eraill. • Symud ymlaen i ddatblygu a chyflwyno achos busnes amlinellol am gyllid i Lywodraeth Cymru.
|