Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2026. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2026 yn gywir. |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Fe wnaeth y Cynghorydd Celfyn Furlong ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.
Fe wnaeth y Cynghorydd Derek Owen ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.
Fe wnaeth y Cynghorydd Alun Roberts ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.
Fe wnaeth Mr Arwel Owen, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig ag eitem 7 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr. |
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd neu’r Prif Weithredwr, ac unrhyw sylwadau terfynol gan y Cadeirydd ar ei chyfnod yn yn swydd y mae ei thymor yn dod i ben. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaethpwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd:-
· Diolchodd y Cadeirydd i’r holl wirfoddolwyr ledled yr Ynys sydd wedi bod yn brysur yn codi arian ac yn gwneud trefniadau ar gyfer croesawu’r Eisteddfod yr Urdd i Ynys Môn a gynhelir rhwng 25 a 31 Mai. Dymunodd yn dda i’r holl blant a phobl ifanc fydd yn cystadlu yn ystod yr wythnos.
· Mynegwyd llongyfarchiadau i Mr Derek Evans, Llannerch-y-medd, ar gael ei anrhydeddu gan yr Urdd drwy ennill Tlws John a Ceridwen Hughes. Caiff y tlws ei wobrwyo gan yr Urdd yn flynyddol i wirfoddolwyr arbennig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru. Bydd seremoni arbennig ar ei gyfer yn Eisteddfod yr Urdd Môn diwedd y mis.
· Mynegodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau hefyd i bawb o’r Ynys fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro ym mis Awst. Bu longyfarch Malachy Owain Edwards, Llanfairpwll a fydd yn cael ei anrhydeddu gyda’r Wisg Werdd yn yr Eisteddfod eleni.
· Dymunodd y Cadeirydd yn dda i bawb o’r Ynys fydd yn cymryd rhan yn y Sioe Frenhinol eleni. Ynys Môn fydd y Sir nawdd i’r Sioe yn 2027 felly bydd yn flwyddyn brysur i’n cymunedau amaethyddol.
· Bu’r Cadeirydd longyfarch RAF y Fali hefyd ar ddathlu 85 mlynedd ers ei sefydlu yn ddiweddar. Nodwyd y dathliadau gyda ymweliad gan y Tywysog William a fu’n hyfforddi ac yn gweithio yn yr orsaf am gyfnod.
· Dymunodd y Cadeirydd yn dda i bawb fydd yn sefyll arholiadau TGAU, Lefel A ac unrhyw gymwysterau eraill eleni. Mae’r Cyngor yn Rhiant Corfforaethol, a dymuniadau arbennig hefyd i’r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal ar eu arholiadau dros yr wythnosau nesaf.
· Rhoddwyd llongyfarchiadau i Ellie Corcoran o Ynys Môn a enillodd teitl Miss Wales 2026 yn ddiweddar. Mae Ellie yn gwirfoddoli gyda Gyrfa Cymru ac yn cynorthwyo pobl ifanc. Mae hi hefyd wedi codi mwy na £40,000 ar gyfer elusennau amrywiol.
· Llongyfarchiadau i wasanaeth Môn Actif ar lwyddiant cenedlaethol ar ôl derbyn gwobr ‘Building Belonging’ yng Ngwobrau Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid 2026.
· Llongyfarchiadau i’r Iorwerth Arms, Bryngwran am dderbyn gwobr Arfor am y Fenter Gymdeithasol fwyaf Cymraeg yn y byd.
· Llongyfarchiadau mawr i 101 o bobl ifanc blwyddyn 10 o Ysgolion Uwchradd yr Ynys sydd wedi llwyddo i gwblhau taith efydd Gwobr Dug Caeredin, dros 2 ddiwrnod yn ystod gwyliau’r Pasg. Diolchodd yn arbennig i’r Gwasanaeth Ieuenctid am gydlynu ac arwain y teithiau yn ogystal a chefnogaeth gan y tîm awyr agored yn yr Urdd Mae gwasanaeth Ieuenctid Ynys Môn yn parhau i fod efo’r nifer uchaf o bobl ifanc yn cyflawni achrediadau Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru.
· Diolchodd y Cadeirydd i’r holl staff a fu’n brysur yn rhan o drefniadau cynnal etholiad Senedd Cymru yn etholaeth Bangor Conwy Môn yr wythnos diwethaf. Bu’r Cadeirydd longyfarch y chwe ymgeisydd llwyddiannus a dymuno’n dda iddynt yn eu rolau newydd.
* * * * *
Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Jeff Evans a’i deulu gan fod ei ferch wedi derbyn llawdriniaeth sylweddol yn Lerpwl yn ddiweddar.
Dymunwyd yn dda ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Rhybudd o Gynnig Derbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Neville Evans:-
‘Rwyf yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd a dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel a nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks.
Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, rwy’n galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfernethu’r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Neville Evans : -
“Rwy’n galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg fel a nodir yn adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg a gadeiriwyd gan Dr Simon Brooks.
Gyda Llywodraeth newydd yn cychwyn ar ei gwaith ym Mae Caerdydd, galwaf ar Gyngor Sir Ynys Môn i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i annog gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith fyw o fewn ein cymunedau yma ar yr ynys.’
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans bod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud argymhellion a fyddai’n cryfhau cymunedau Cymraeg a bod adroddiad yn cynnwys 57 o argymhellion wedi’i gyhoeddi yn 2024. Roedd yn ei ystyried yn fraint o fod wedi’i fagu yn Gymraeg yng nghymuned Bryngwran. Nododd fod dirywiad wedi’i weld mewn siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau lleol dros y 30 mlynedd diwethaf yn ogystal â defnydd o’r Gymraeg o fewn y cymunedau hynny. Dywedodd y Cynghorydd Evans fod yr Iaith Gymraeg angen ei gwarchod ac y dylid annog a chefnogi pobl i ddefnyddio’r iaith. Dywedodd fod adroddiad Dr Simon Brookes yn fanwl ac yn gynhwysfawr ac yn awgrymu ffyrdd o ddatblygu’r Gymraeg. Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans hefyd at yr angen i ddiogelu enwau Cymraeg ar eiddo.
Bu’r Arweinydd eilio’r Cynnig gan ddweud ei fod yn amserol wrth i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ar yr Ynys ddiwedd Mai. Dywedodd ei fod yn mynychu sesiynau dysgu Cymraeg o fewn ei gymuned a’i bod yn galonogol gweld fod pobl yn frwdfrydig dros ddysgu Cymraeg. Dywedodd hefyd fod Ynys Môn yn un o ddwy Sir sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg gan fod 70% o blant rhwng 3 a 15 oed yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg fel rhan bwysig o Gynllun y Cyngor. Mae gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn rhoi arweiniad clir ac yn pwysleisio mai’r camau allweddol cyntaf yw hyrwyddo’r Gymraeg a chreu platfform o bolisïau ystyrlon. Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud y bydd angen gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r argymhellion o fewn adroddiad y Comisiwn.
Nododd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ei fod yn cefnogi’r Cynnig ac unrhyw ddull arall o ddatblygu’r Gymraeg o fewn cymunedau lleol. Dywedodd ei fod yn bwysig sicrhau cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc ar yr Ynys gan fod gormod ohonynt yn gorfod gadael yr Ynys i ddod o hyd i waith.
Cytunodd y Cynghorydd Aled Morris Jones â’i gyd-aelod gan ddweud y byddai cyfleoedd cyflogaeth a chadw pobl ifanc ar yr Ynys yn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Nododd, gyda safle’r Wylfa yn cael ei adnabod ar gyfer lleoli tri SMR, y bydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth tra bo potensial am fwy o SMR’s ar y safle.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynnig i alw ar Gyngor Sir Ynys Môn i gydnabod Ynys Môn fel Sir sydd â dwysedd uwch o ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb. |
|
|
Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor 2025/26 Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2025/26.
Cyflwynodd yr Arweinydd ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025/2026 a nododd ei bod yn flwyddyn bwysig a chyffrous ar gyfer cyflawni potensial a chyfleoedd economaidd newydd ar yr Ynys gyda’r cyhoeddiad ym mis Tachwedd mai safle Wylfa fyddai’r safle cyntaf ym Mhrydain i gael adweithyddion SMR. Nododd fod hyn yn ganlyniad i lobïo traws bleidiol gan Aelodau Seneddol, Aelodau’r Senedd ac Aelodau’r Awdurdod hwn. Mae gwaith bellach wedi’i ymgymryd ag ef er mwyn sicrhau bod buddion y datblygiad arfaethedig yn cyrraedd pobl Môn ac mae’n bwysig bod llwybrau sgiliau yn cael eu creu ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth. Dywedodd ei fod yn bleser arwyddo cytundeb cydweithio ffurfiol â Great British Nuclear fis diwethaf. Ym mis Mawrth, cafodd carreg filltir bwysig ei chyrraedd gyda Porthladd Rhydd Ynys Môn wrth arwyddo Memorandwm o ddealltwriaeth efo Llywodraeth y DU a Llywodraeth cymru er mwyn rhyddhau’r cyllid cychwynnol o £25 miliwn a fydd yn galluogi’r Porthladd Rhydd i symud ymlaen i fod yn weithredol erbyn Gwanwyn 2026. Gall y Cyngor a phartneriaid eraill fwrw ymlaen â chynlluniau sy’n cryfhau rôl yr Ynys mewn meysydd megis ynni, gweithgynhyrchu a masnach er mwyn hyrwyddo ffyniant hirdymor ar Ynys Môn ac yng ngogledd Cymru. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn dymuno diolch i staff yr Adran Datblygiad Economaidd am eu gwaith o sicrhau’r buddsoddiad o £10.4 miliwn drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er mwyn cefnogi twf economaidd yn ardal Amlwch a hynny drwy adnewyddu’r Adeilad Morwrol ym mhorth Amlwch ac adeiladu 10 uned fusnes ar Stad Ddiwydiannol Amlwch. Mae sicrhau bod yr economi yn ffynnu a darparu safon uchel o gyfleoedd cyflogaeth yn hanfodol er mwyn helpu busnesau lleol i fanteisio ar gyfleoedd ac i helpu pobl ifanc i aros ar yr Ynys.
Nododd yr Arweinydd ei fod yn croesawu canfyddiadau’r arolwg diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ystod eu hymweliad yn 2026 fe wnaethant adolygu’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a chanlyniad hynny oedd iddynt ddarganfod bod plant a theuluoedd yn cael eu cefnogi gan dîm gofalgar, medrus ac ymroddedig a bod nifer o enghreifftiau o arfer dda. Cafodd Gwasanaeth Maethu Môn hefyd ei archwilio gyda’r Archwilwyr yn amlygu bod gan blant mewn gofal sefydlogrwydd a’u bod yn derbyn cefnogaeth i allu meithrin perthnasau cadarnhaol efo Gofalwyr Maeth. Cafwyd canmoliaeth hefyd i’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Drawma, yr oruchwyliaeth barhaus a’r rhwydweithiau cefnogi sydd gan Ofalwyr Maeth. Diolchodd yr Arweinydd i’r Gofalwyr Maeth am eu gwaith wrth ofalu am blant a phobl ifanc Ynys Môn.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at nifer o Wobrau a dderbyniwyd gan y Cyngor fel y nodwyd yn ei adroddiad. Cyfeiriodd at ymrwymiad a gwaith caled staff y Cyngor er budd trigolion Ynys Môn.
Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Arweinydd am ei adroddiad a nododd fod gweithwyr yn parhau i gael eu cyflogi yn safle’r Wylfa ac mewn safleoedd digomisiynu eraill ar draws y DU. Cyfeiriodd at y buddsoddiad yng ngogledd Ynys Môn a nododd fod angen cydnabod cefnogaeth yr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro os oedd gan unrhyw un ddiddordeb personol yn yr eitem hon, bod angen iddynt ddatgan diddordeb gan mai’r mater gerbron y Cyngor yw penderfynu a yw’r Awdurdod yn mynd allan i ymgynghori ar gyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ynys Môn. Os yw’r Cyngor yn penderfynu ymgymryd â phroses ymgynghori gyhoeddus a bod adborth ymgynghoriad o’r fath yn cael ei adrodd yn ôl arno i’r Cyngor am benderfyniad terfynol, bydd y diddordeb personol yn newid i fod yn ddiddordeb sy’n rhagfarnu. Dywedodd ymhellach os oes unrhyw Aelod yn ystyried bod ganddynt ddiddordeb personol y dylent gysylltu â’r Adran Gyfreithiol er mwyn gwneud cais i’r Pwyllgor Safonau am ganiatâd arbennig a allai alluogi Aelodau i gymryd rhan mewn trafodaethau.
Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro na ddylai fynegi eu barn ar yr ardoll ymwelwyr yn ystod y Pwyllgor hwn gan mai’r eitem sydd gerbron yw ystyried a ddylai’r Cyngor gynnal proses ymgynghori gyhoeddus.
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth ac Eiddo, y Cynghorydd Alun Roberts na fyddai’n cyflwyno’r eitem gan y bydd y datgan diddordeb personol gan fod aelod agos o’i deulu yn cael ei gyflogi yn y sector twristiaeth, na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ac y byddai’n atal ei bleidlais. Dywedodd mai’r Arweinydd fyddai’n cyflwyno’r eitem i’r Cyngor.
Bu’r cynghorwyr Celfyn Furlong, Douglas Fowlie a Derek owen ddatgan diddordeb personol yn yr eitem. Fe wnaeth Mr Arwel Owen, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddatgan diddordeb personol.
Nododd yr Arweinydd fod yr adroddiad a gyflwynir gerbron y Cyngor er mwyn penderfynu a ddylid cynnal proses ymgynghori gyhoeddus o ran cyflwyno ardoll ymwelwyr ar gyfer pobl sy’n aros mewn llety gwyliau yng Nghymru. Nododd mai nod yr ymgynghoriad yw gwahodd barn ar yr ardoll arfaethedig gan drigolion, busnesau lleol, ymwelwyr a sefydliadau partner. Bydd yn ceisio cael gwell ddealltwriaeth o farn leol, effeithiau posibl ac unrhyw bryderon cyn ystyried unrhyw benderfyniad posibl. Dywedodd ei fod wedi cael nifer o drafodaethau â’r sector twristiaeth a busnesau eraill am effaith yr ardoll ymwelwyr. Aeth yr arweinydd ymlaen i ddweud fod Cynghorau cyfagos Gwynedd a Chonwy yn bwriadu ymgymryd â phroses ymgynghori a bod Ynys Môn yn ystyried ei bod yn synhwyrol cydweithio â’r Cynghorau hynny o ran camau ac amserlen, er y byddai pob Cyngor yn cynnal ei ymgynghoriad unigol, annibynnol.
Gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones am ymatebion gan y diwydiant twristiaeth i Lywodraeth Cymru ac a oedd y broses ymgynghori yn angenrheidiol a’r costau cysylltiedig. Nododd, petai ardoll yn cael ei gyflwyno y byddai’n faich gweinyddol ar fusnesau. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad y Cwsmer fod prosesau ymgynghori cyhoeddus yn cael eu gwneud ar-lein yn bennaf ac mai costau cyfyngedig oedd yn gysylltiedig â hynny.
Roedd Aelodau’r Grŵp arweiniol yn ystyried fod gan drigolion a busnesau ar yr Ynys yr hawl i fynegi barn ar yr ardoll ymwelwyr.
Nododd y Cynghorydd Kenneth P Hughes ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2026/27.
(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer Ethol Cadeirydd y Cyngor Sir). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2026/2027.
Wrth dderbyn yr anrhydedd o gael ei benodi, sicrhaodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas y Cyngor y byddai’n ceisio cyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd hyd eithaf ei allu. Diolchodd i’w ragflaenydd, y Cynghorydd Non Dafydd, am gyflawni ei dyletswyddau fel Cadeirydd y Cyngor Sir mor urddasol ac anrhydeddus a chyflwynodd rodd iddi i gydnabod ei gwasanaeth.
Diolchodd y cyn-Gadeirydd, y Cynghorydd Non Dafydd, i’r Aelodau a Swyddogion am eu cefnogaeth. Cyfeiriodd at y llu o ddigwyddiadau y bu iddi eu mynychu a’r fraint o gynrychioli’r Cyngor Sir yn y digwyddiadau hynny. Cyfeiriodd y Cynghorydd Non Dafydd at yr her bersonol a osododd i’w hun fel Cadeirydd sef cerdded 130 milltir o amgylch yr Ynys dros gyfnod o ychydig wythnosau a diolchodd i Aelodau a’r rhai oedd wedi’i chefnogi a’r cyfraniadau hael tuag at yr elusen yr oedd wedi’i ddewis sef RASASC Gogledd Cymru. Mae RASASC yn cefnogi dynion, merched a phlant sydd wedi dioddef trais. Cyfeiriodd hefyd at Wasanaeth Sul y Cadeirydd yn Eglwys Llanbadrig ar 15 Mawrth, 2025. Roedd am ddiolch i staff y Gwasanaethau Democrataidd am eu cefnogaeth yn ystod ei thymor fel Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn. |
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2026/27. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, ethol y Cynghorydd Jackie Lewis yn Is-gadeirydd ar Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2026/2027.
|
|
|
Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae ef wedi ei ddewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, enwodd yr Arweinydd yr Aelodau canlynol a ddewiswyd ganddo i fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â’u cyfrifoldebau Portffolio:-
Y Cynghorydd Gary Pritchard (Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio am Ddatblygu Economaidd;
Y Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) gyda chyfrifoldeb Portffolio am Gyllid, Busnes y Cyngor a Phrofiad y Cwsmer.
Y Cynghorydd Neville Evans gyda chyfrifoldeb Portffolio am Wasanaethau Oedolion,
Y Cynghorydd Carwyn Jones gyda chyfrifoldeb Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol,
Y Cynghorydd Dyfed W Jones gyda chyfrifoldeb Portffolio am Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd;
Y Cynghorydd Alun Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo,
Y Cynghorydd Dafydd Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio am Addysg a’r Gymraeg;
Y Cynghorydd Nicola Roberts gyda chyfrifoldeb Portffolio am Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
Y Cynghorydd Ieuan Williams gyda chyfrifoldeb Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd. |
|
|
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rhan 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
|
Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad, PENDERFYNWYD cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno. |
|
|
Cadarnhau Pwyllgorau Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -
· Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau · Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) · Is-Bwyllgor Indemniadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol: -
· Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau; · Y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS); · Is-bwyllgor Indemniadau |
|
|
Rhaglen Cyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2026/27 Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -
· 24 Medi 2026 - 1:00 pm · 8 Rhagfyr 2026 - 1:00 pm · 4 Mawrth 2027 - 1:00 pm · Mai 2027 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd cyffredinol y Cyngor Sir am y flwyddyn nesaf: -
· 24 Medi, 2026 - 1.00 pm · 8 Rhagfyr, 2026 - 1.00 pm · 4 Mawrth, 2027 - 1.00 pm · Mai 2026 (Cyfarfod Blynyddol) - dyddiad i’w gadarnhau |
|
|
Cydbwysedd Gwleidyddol Pwyllgorau Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth ynglŷn â threfniadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor i’w ystyried.
PENDERFYNWYD:-
· Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a nifer y seddi a ddyrennir i bob Grŵp o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; · Bod Arweinyddion Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.
|
|
|
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Demoncrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas â phenodi cynrychiolwyr ar Gyrff Allanol.
PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn yr atodlen i’r adroddiad. |
|
|
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Mawrth 2026. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol 2026/2027 y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i’w ystyried.
PENDERFYNWYD:-
· Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2026-27; · Cadarnhau y bydd deiliaid yr un swyddi â 2025-26 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2026-27, sef:-
Cadeirydd y Cyngor; Is-gadeirydd y Cyngor; Arweinydd y Cyngor; Dirprwy Arweinydd y Cyngor; Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7); Arweinydd yr Wrthblaid Fwyaf; Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2); Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Awdurdodi Swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau) er mwyn adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2026/27.
|