Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd blaenorol y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -
· 12 Mai 2025 (Cyfarfod Blynyddol) · 13 Awst 2026 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir:-
· Cofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 12 Mai 2026. · Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 13 Awst, 2026.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu’r Cynghorydd Neville Evans ddatgan diddordeb personol yn Eitem 11 - Ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ond yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.
Bu’r Cynghorydd Celfyn Furlong ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 11 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr ond ar ôl derbyn caniatâd arbennig gan y Panel Caniatâd Arbennig o’r Pwyllgor Safonau ar 15 Mehefin, 2026 roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ond nid pleidleisio ar yr eitem.
Bu’r Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn gysylltiedig ag Eitem 4 - Ymgynghoriad ar yr Ardoll i Ymwelwyr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Bu’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol yn Eitem 8 - Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2025/2026.
Bu’r Cynghorydd Derek Owen ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 11 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr ond ar ôl derbyn caniatâd arbennig gan y Panel Caniatâd Arbennig o’r Pwyllgor Safonau ar 14 Medi, 2026 roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ond nid pleidleisio ar yr eitem.
Bu’r Cynghorydd Alun Roberts ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 11 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr ond ar ôl derbyn caniatâd arbennig gan y Panel Caniatâd Arbennig o’r Pwyllgor Safonau ar 24 Gorffennaf, 2026 roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.
Bu’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ddatgan diddordeb personol yn eitem 14 - Adolygiad o’r Strwythur Arweinyddol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Bu’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddatgan diddordeb personol yn eitem 11 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr.
Bu’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd ddatgan diddordeb personol yn eitem 14 - Adolygiad o’r Strwythur Arweinyddol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
|
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.
|
|
|
Adolygiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Medi 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn unfrydol, i gymeradwyo’r Adolygiad Rheoli’r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2025/2026.
|
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2025/26 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 18 Mehefin 2026.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol:
· Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2025-26; · Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2026/2027 tra’n derbyn y gallai rhai materion ychwanegol gael eu cynnwys, yn unol â’r galw.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd yn unfrydol cymeradwyo’r gwelliant arfaethedig i’r Cyfansoddiad a newid y cyfnod a ganiateir i aelodau lleyg wasanaethu ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
|
|
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2025/26
Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Dileu elw o ofal plant - Cynlluniau digonolrwydd Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd gohirio’r eitem tan y Cyngor Llawn a gynhelir ym mis Rhagfyr, 2026. |
|
|
Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2025/2026 Cyflwyno adroddiad Cadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn unfrydol:
· Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Sgriwtini a Throsolwg ar gyfer 2025/26; · Nodi’r cynnydd parhaus a wnaed o ran gweithredu ein taith Sgriwtini ac effaith hynny ar ymarfer; · Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod rhwng Mai 2026 a Mai 2027. |
|
|
Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Medi 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Na ddylai’r Cyngor fabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr gan ystyried yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r asesiadau effaith. · Y dylai’r Cyngor fonitro, adolygu ac ystyried y dystiolaeth ar effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd wedi dewis mabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol. · Y dylai’r Prif Weithredwr, ar y cyd â’r Arweinydd, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o’r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar. Dylid rhannu llythyr at Lywodraeth Cymru gyda’r holl aelodau etholedig. |
|
|
Newid i gasgliadau ailgylchu a gwastraff Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Medi 2026. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Arolwg Cymunedol o drefniadau etholiadol Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo ymgynghoriad o 8 wythnos ar y cynigion drafft a nodwyd yn Atodiad 2 o’r adroddiad.
|
|
|
Adolygiad o’r strwythur arweinyddiaeth Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Cymeradwyo’r cynnig i wahanu cyfrifoldebau presennol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd; · Cymeradwyo sefydlu swydd benodol a newydd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd; · Cymeradwyo’r strwythur arfaethedig a nodir yn Atodiad 1. · Wrth ystyried yr uchod, nodi’r risgiau strategol, llywodraethu a gwydnwch sy’n gysylltiedig â chadw’r trefniadau presennol. · Cymeradwyo’r cynnig i newid strwythur presennol y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, a chreu dau wasanaeth o’r newydd. · Cymeradwyo sefydlu swydd Pennaeth Gwasanaeth a fydd yn arwain y Gwasanaeth newydd. · Cymeradwyo’r strwythur arfaethedig a nodir yn Atodiadau 2 a 3.
|