Rhaglen a Phenderfyniadau

Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyn, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 24ain Medi, 2026 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 224 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd blaenorol y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -

 

·     12 Mai 2025 (Cyfarfod Blynyddol)

·     13 Awst 2026 (Arbennig)                            

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir:-

 

·          Cofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 12 Mai 2026.

·          Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 13 Awst, 2026.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu’r Cynghorydd Neville Evans ddatgan diddordeb personol yn Eitem 11 - Ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr ond yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu’r Cynghorydd Celfyn Furlong ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 11 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr ond ar ôl derbyn caniatâd arbennig gan y Panel Caniatâd Arbennig o’r Pwyllgor Safonau ar 15 Mehefin, 2026 roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ond nid pleidleisio ar yr eitem.

 

Bu’r Cynghorydd John Ifan Jones  ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn gysylltiedig ag Eitem 4 - Ymgynghoriad ar yr Ardoll i Ymwelwyr a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol yn Eitem 8 - Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2025/2026.

 

Bu’r Cynghorydd Derek Owen ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 11 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr ond ar ôl derbyn caniatâd arbennig gan y Panel Caniatâd Arbennig o’r Pwyllgor Safonau ar 14 Medi, 2026 roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ond nid pleidleisio ar yr eitem.

 

Bu’r Cynghorydd Alun Roberts ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 11 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr ond ar ôl derbyn caniatâd arbennig gan y Panel Caniatâd Arbennig o’r Pwyllgor Safonau ar 24 Gorffennaf, 2026 roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ddatgan diddordeb personol yn eitem 14 - Adolygiad o’r Strwythur Arweinyddol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddatgan diddordeb personol yn eitem 11 - Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr. 

 

Bu’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd ddatgan diddordeb personol yn eitem 14 - Adolygiad o’r Strwythur Arweinyddol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

3.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â Pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd yr un ddeiseb.

 

5.

Adolygiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2025/26 pdf eicon PDF 450 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Medi 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn unfrydol, i gymeradwyo’r Adolygiad Rheoli’r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2025/2026.

 

6.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2025/26 pdf eicon PDF 448 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 18 Mehefin 2026.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD yn unfrydol:

 

·          Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2025-26;

·          Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2026/2027 tra’n derbyn y gallai rhai materion ychwanegol gael eu cynnwys, yn unol â’r galw.

 

7.

Newid i'r Cyfansoddiad - diwygio tymor swydd aelodau lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd yn unfrydol cymeradwyo’r gwelliant arfaethedig i’r Cyfansoddiad a newid y cyfnod a ganiateir i  aelodau lleyg wasanaethu ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  

 

8.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2025/26 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

9.

Dileu elw o ofal plant - Cynlluniau digonolrwydd pdf eicon PDF 166 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd gohirio’r eitem tan y Cyngor Llawn a gynhelir ym mis Rhagfyr, 2026.

10.

Adroddiad Blynyddol Sgriwtini 2025/2026 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad Cadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD yn unfrydol:

 

·                 Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Sgriwtini a Throsolwg ar gyfer 2025/26;

·                 Nodi’r cynnydd parhaus a wnaed o ran gweithredu ein taith Sgriwtini ac effaith hynny ar ymarfer;

·                 Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn Bencampwr Sgriwtini ar gyfer y cyfnod rhwng Mai 2026 a Mai 2027.

11.

Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Medi 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·         Na ddylai’r Cyngor fabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr gan ystyried yr ansicrwydd sy’n wynebu’r sector twristiaeth ar hyn o bryd a chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r asesiadau effaith.

·         Y dylai’r Cyngor fonitro, adolygu ac ystyried y dystiolaeth ar effaith yr Ardoll Ymwelwyr mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd wedi dewis mabwysiadu’r Ardoll, ac unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth berthnasol.   

·         Y dylai’r Prif Weithredwr, ar y cyd â’r Arweinydd, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad o’r drefn ddeddfwriaethol bresennol i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar. Dylid rhannu llythyr at Lywodraeth Cymru gyda’r holl aelodau etholedig.

12.

Newid i gasgliadau ailgylchu a gwastraff pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Medi 2026.

Dogfennau ychwanegol:

13.

Arolwg Cymunedol o drefniadau etholiadol pdf eicon PDF 263 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo ymgynghoriad o 8 wythnos ar y cynigion drafft a nodwyd yn Atodiad 2 o’r adroddiad.

 

14.

Adolygiad o’r strwythur arweinyddiaeth pdf eicon PDF 331 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·             Cymeradwyo’r cynnig i wahanu cyfrifoldebau presennol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

·             Cymeradwyo sefydlu swydd benodol a newydd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

·             Cymeradwyo’r strwythur arfaethedig a nodir yn Atodiad 1.

·             Wrth ystyried yr uchod, nodi’r risgiau strategol, llywodraethu a gwydnwch sy’n gysylltiedig â chadw’r trefniadau presennol.

·             Cymeradwyo’r cynnig i newid strwythur presennol y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, a chreu dau wasanaeth o’r newydd.

·             Cymeradwyo sefydlu swydd Pennaeth Gwasanaeth a fydd yn arwain y Gwasanaeth newydd.

·             Cymeradwyo’r strwythur arfaethedig a nodir yn Atodiadau 2 a 3.