4 Craffu Partneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru
PDF 3 MB
Derbyn cyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Sian Williams – Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru i'r cyfarfod.
Rhoddodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru gyflwyniad llafar i'r cyfarfod a thynnodd sylw at uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru drwy eu Cynllun Corfforaethol, sef cefnogi adferiad natur, datblygu gwytnwch i newid hinsawdd mewn cymunedau a lleihau llygredd ac atal niwed i'r amgylchedd. Tynnodd sylw at rôl a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff rheoleiddio sy'n cynghori ac yn rheoleiddio'r dull o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a sicrhau canlyniadau llesiant. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddiwr ar y diwydiant dŵr. Adroddwyd manylion y prosiectau strategol ar Ynys Môn i'r Pwyllgor ac yn benodol datblygiad Wylfa - Gwyndod, y Porthladd Rhydd, Coedwig Niwbwrch a Llanddwyn. Tynnwyd sylw at wybodaeth bellach ynglŷn â sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i risgiau Newid yn yr Hinsawdd yn sgil tonnau gwres a sychder, ffermio a chynhyrchu bwyd, peryglon llifogydd ac erydiad, adeiladu a chynnal a chadw amddiffynfeydd. Tynnodd sylw ymhellach at y gwaith a wnaed gyda chymunedau lleol a'r Awdurdod Lleol ynglŷn â materion traffig drwy bentref Niwbwrch ac mae trafodaethau'n parhau ynglŷn â'r problemau parcio i rai sy’n ymweld â Llanddwyn. Cyfeiriodd ymhellach at yr angen i gau Coedwig Niwbwrch dros y penwythnos oherwydd risgiau tân posibl.
Trafodwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor:-
• Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r cynlluniau sydd yn eu lle i ddelio â’r risgiau posibl o danau gwyllt, yn enwedig yng Nghoedwig Niwbwrch a Llanddwyn, ac a yw'r cynlluniau hyn wedi'u rhannu gyda'r Awdurdod Lleol a chyrff eraill sy’n bartneriaid. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod cynlluniau argyfwng yn eu lle, a bod trafodaethau dyddiol yn cael eu cynnal, yn enwedig yn ystod y don wres, ynglŷn â'r risgiau posibl o danau gwyllt, fel sy'n digwydd ym Mwlch Sychnant. Mae mapiau gwagio yn cael eu rhannu gyda'r Gwasanaethau Brys a'r Awdurdod Lleol os oes angen i bobl adael safleoedd.
• Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r pwerau rheoleiddio sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru dros Ddŵr Cymru ac yn enwedig achosion yn ymwneud â charthffosiaeth. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru mai Ofwat yw'r rheoleiddiwr statudol a’u bod yn ddiweddar wedi cynnig pecyn gorfodi gwerth £44.7m yn dilyn ei ganfyddiadau bod Dŵr Cymru wedi torri ei rwymedigaethau cyfreithiol wrth weithredu ei waith trin dŵr gwastraff a'i rwydwaith. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gorfodi Dŵr Cymru i roi systemau monitro ar waith dros y blynyddoedd diwethaf. Nododd, os oes ardaloedd sy'n cael effaith ar yr amgylchedd, yna gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio pwerau gorfodi i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau statudol.
• Gofynnwyd p’un ai a oedd cyfleusterau parcio ar ochr Malltraeth wedi cael eu hystyried i ysgafnhau’r pwysau ar y rhwydwaith priffyrdd tuag at Draeth Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch. Mewn ymateb, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru fod cyfleusterau parcio ar ochr Malltraeth wedi cael ei grybwyll yn ystod sesiynau galw heibio yng nghymuned Niwbwrch. Nododd fod gan bob opsiwn ei fanteision/anfanteision a bod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4