Mater - cyfarfodydd

Cofnodion

Cyfarfod: 14/07/2026 - Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio (Eitem 3)

3 Cofnodion pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2026.

 

YN CODI

 

Diweddariad ar wireddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ynys Môn 2022/2026

 

·             Llythyr wedi ei anfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Adam Price AS;

·             Ymateb wedi ei dderbyn gan Mr Adam Price AS;

·             Llythyr wedi ei anfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Steve Reed AS;

·             Ymateb wedi ei dderbyn ar ran Mr Steve Reed AS.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2026 yn gywir.

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2026 yn gywir.

 

MATERION YN CODI

 

Diweddariad ar weithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ynys Môn 2022/2026

 

Atodwyd yr ohebiaeth ganlynol at Raglen y Pwyllgor er gwybodaeth:-

 

•            Gohebiaeth wedi’i hanfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Adam Price AS;

•            Ymateb wedi’i dderbyn gan Mr Adam Price AS;

•            Gohebiaeth wedi’i hanfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Steve Reed AS;

•            Ymateb wedi’i dderbyn ar ran Mr Steve Reed AS.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod datganiad wedi'i wneud bod cyllid grant y DU yn ystyried dyfarnu'r grantiau i'w gweinyddu gan awdurdodau lleol yn hytrach na Llywodraeth Cymru.  Holodd a fydd y cyllid yn cael ei ddyfarnu i'r cyrff sefydledig h.y. y Cydbwyllgorau Corfforedig (CBCau).  Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr nad oedd yn gallu cadarnhau sut y bydd y cyllid yn cael ei ddyfarnu ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd cyllid y Gronfa Twf Lleol yn cael ei ddyfarnu i awdurdodau lleol yn y flwyddyn gyntaf.  Cyfeiriodd at yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU sy’n nodi eu bod o'r farn bod cyllid grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Twf Lleol yn ddwy ffordd wahanol o ariannu.  Dywedodd ymhellach fod y llywodraeth flaenorol yn y Senedd wedi dweud bod cyllid yr ail a'r drydedd flwyddyn i'w ddyfarnu i'r CBCau rhanbarthol.  Mae CBC Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Mr Adam Price AS i weld a yw'r cyllid i'w ddyfarnu i'r cyrff rhanbarthol neu i'r Awdurdodau Lleol.  Nododd eu bod yn disgwyl ymateb gan Weinidog y Cabinet.